Gweld swydd wag -- Swyddog Adolygu Annibynnol

Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifainc
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 12
£37,849
Amser Llawn Parhaol

Mae Cyngor RhCT yn awyddus i benodi 2 Gadeirydd Cynhadleddau a Swyddogion Adolygu Annibynnol profiadol ac ymroddedig i ymuno â'r Gwasanaeth Adolygu hirsefydlog ac uchel ei barch. Mae'r swyddi'n rhai llawn amser ac wedi'u lleoli ym Mhontypridd. Bydd gan yr ymgeiswyr delfrydol wybodaeth arbenigol ddatblygedig iawn o ymarfer gwaith cymdeithasol yn y Gwasanaethau i Blant, a bydd ganddyn nhw brofiad o gadeirio cyfarfodydd heriol ac o ddiogelu plant yn y llys.

Mae RhCT yn Gyngor cyfeillgar, cefnogol a chreadigol ac rydym yn cynnig cyflogaeth sefydlog gyda thelerau ac amodau hael (gan gynnwys buddion a gostyngiadau staff).

Prif Gyfrifoldebau:

  • Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gyfrifol am lwyth achosion, yn cadeirio Cynadleddau Diogelu Plant a chyfarfodydd adolygu Plant sy'n Derbyn Gofal ac yn datblygu cynlluniau sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau sy'n gysylltiedig â Deddf Plant 1989; Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achos (Cymru) 2015 a 2016; Deddf Plant a Mabwysiadu 2002, Deddf Plant sy'n Gadael Gofal 2000 a Deddf Plant 2004. Bydd disgwyl hefyd i'r ymgeiswyr llwyddiannus gadw at Ganllaw Safonau Ymarfer ac Arfer Da a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ac AFA Cymru: Adolygu a Monitro Cynllun Gofal a Chefnogaeth Rhan 6 Plentyn neu Berson Ifanc.
  • Mae'r gwasanaeth yn darparu rôl sicrhau ansawdd ar draws y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifainc, ac mae'n gyfrifol am fonitro'r holl blant a phobl ifainc sy'n derbyn gofal, plant sy'n cael eu mabwysiadu, a phobl ifainc sy'n destun adolygiadau Llwybr.
  • Ymgynghori â'r gwasanaeth ehangach ac asiantaethau partner ar faterion ymarfer ym meysydd arbenigedd y garfan gan gynnwys gweithdrefnau amddiffyn plant, diogelu plant, plant sy'n derbyn gofal, plant sy'n agored i niwed a pharhad a chynllunio gofal.

Gofynion Cadeirydd Cynhadleddau / Swyddog Adolygu Annibynnol:

  • Gradd neu gymhwyster cyfwerth mewn gwaith cymdeithasol
  • Cofrestriad cyfredol gyda Chyngor Gofal Cymru
  • Profiad rheng flaen sylweddol o fewn gwasanaethau i blant

Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol, rydyn ni'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n siarad Cymraeg.

Bydd y broses recriwtio ar gyfer y swydd yma yn cael ei hategu gan asesiadau recriwtio mwy diogel i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn a bod y swydd yn destun gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plentyn) Manwl.

Os hoffech chi siarad â rhywun am y swyddi yma, ffoniwch Ceri Mann, Rheolwr y Garfan, ar (01443) 490120.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.


Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Ty Catrin
Unit 1 Maritime Industrial Estate
Pontypridd
CF37 1NY
11 Rhagfyr 2019
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.