Gweld swydd wag -- Gweithiwr Cymdeithasol - Carfan Plant Anabl

Gwaith Cymdeithasol
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 11
£34,788 ynghyd ag ychwanegiad marchnad sy'n daladwy ar ôl y flwyddyn gyntaf yn ymarferol. Bydd £ 1,000 y flwyddyn yn daladwy ar gyfer blwyddyn 2, ac yna £ 1,000 y flwyddyn yn ychwanegol ar gyfer blwyddyn 3. Telir y taliad hwn pro rata yn fisol.
Amser Llawn Parhaol

Rydyn ni’n chwilio am Weithiwr Cymdeithasol creadigol a medrus i ymuno â’n Carfan Plant Anabl brysur. Bydd y swydd yn rhan o Garfan Plant Anabl (Dwyrain) yn Nhŷ Trevithick, Abercynon.

Byddwch chi'n gyfrifol am asesu anghenion plant anabl, llunio cynlluniau gofal, comisiynu gwasanaethau i fynd i'r afael ag anghenion wedi'u hasesu a, ble y bo'n addas, defnyddio'ch hun fel adnodd i gynnal ymyraethau cyfyngedig o ran amser. Rhaid i chi feddu ar gymhwyster perthnasol e.e. Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol, Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol neu Dystysgrif Cymhwyster mewn Gwaith Cymdeithasol. Rhaid i chi fod ar gofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru fel Gweithiwr Cymdeithasol.

Bydd gyda chi wybodaeth gadarn am y model cymdeithasol o anabledd a byddwch chi'n hyrwyddo hawliau a diddordebau plant anabl. Bydd angen i chi ddeall anghenion cynhalwyr a bod yn effro i faterion diogelu plant a deddfwriaeth berthnasol.

Byddwch chi'n gweithio gyda phlant anabl 5-18 oed sydd ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth. Byddwch chi'n gwerthfawrogi pwysigrwydd gwaith tîm mewn perthynas â diwallu'r anghenion hynny, a byddwch chi'n deall effaith anabledd ar blant a'u teuluoedd.

Bydd gyda chi'r gallu i weithio'n hyblyg gan gydbwyso'r angen i ymateb i sefyllfaoedd brys â gofynion eich llwyth gwaith o ddydd i ddydd.

Mae sgiliau cyfathrebu da yn hanfodol i'r swydd gan y bydd angen i chi gyfathrebu'n effeithiol ag ystod o unigolion gan gynnwys plant anabl, aelodau'r teulu, staff asiantaethau partner ac aelodau'r cyhoedd. Byddwch chi'n barod i ddysgu a defnyddio rhaglenni TG a systemau cadw data, yn ôl yr angen.

Hoffech chi sgwrs am y swydd? Ffoniwch Hayley Canham, Rheolwr y Garfan, ar (01443) 425006.


BYDD YR YMGEISWYR LLWYDDIANNUS YN DESTUN GWIRIAD MANWL GAN Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37 awr yr wythnos
Ty Trevithick
Abercynon
Mountain Ash
CF45 4UQ
14 Chwefror 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.