Gweld swydd wag -- Hebryngwr Croesfan Ysgol

Traffig, Priffyrdd a Diogelwch ar y Ffyrdd
Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen
Priffyrdd a Gofal y Strydoedd
Gradd 2
£9.18 yr awr
Rhan-amser Parhaol - tymor ysgol yn unig

Uned Diogelwch y Ffyrdd

Swyddi Gwag Presennol:

Ysgol Gynradd Dolau (7 awr 30 munud yr wythnos)

Yn ôl y galw (achlysurol)

Rydyn ni'n chwilio am nifer o Hebryngwyr Croesfan Ysgol, staff parhaol ac wrth gefn, i weithio ledled Rhondda Cynon Taf. Mae swydd Hebryngwr Croesfan Ysgol yn rhoi boddhad mawr ac mae'n eich galluogi chi i ddarparu gwasanaeth amhrisiadwy i'ch cymuned. Mae'r oriau'n rhan-amser yn ystod y tymor ysgol yn unig. Mae'r union oriau ar sail barhaol ac achlysurol ac yn amrywio gan ddibynnu ar y lleoliad.

Rydyn ni'n edrych am unigolion sydd eisiau rhoi cymorth ac sydd â gwir ddiddordeb mewn diogelwch plant ac oedolion ar eu ffordd i'r ysgol ac adref eto. Mae ein Hebryngwyr Croesfan Ysgol yn bobl brydlon, ddibynadwy, onest ac ymroddedig. Mae'u cymunedau yn meddwl yn fawr ohonyn nhw, a waeth bynnag fo'r tywydd, nhw ydy un o wynebau mwyaf cyfeillgar y gwasanaeth cyhoeddus, sy'n gwrtais ar bob adeg.

Mae synnwyr cyffredin ac ymarferol yn bwysig ar gyfer y swydd. Dylai ymgeiswyr fod yn effro i faterion sy'n ymwneud â diogelwch y ffyrdd a bod yn gyfarwydd â'r argraffiad diweddaraf o Reolau'r Ffordd Fawr. Mae'r gallu i bwyso a mesur cyflymder a phellter cerbydau ac ymwybyddiaeth o bellteroedd stopio ym mhob math o dywydd hefyd yn angenrheidiol.

Bydd gofyn ichi gyfathrebu â phlant ac oedolion i sicrhau eu bod nhw'n ddiogel wrth groesi. Bydd Uned Diogelwch y Ffyrdd yn sicrhau eich bod chi'n cael yr hyfforddiant, gwisg a chyfarpar sydd eu hangen arnoch chi i gyflawni eich dyletswyddau.

Bydd gofyn i'r ymgeiswyr gael archwiliadau cefndir boddhaol. Bydd ymgeiswyr yn destun asesiadau iechyd rheolaidd ar gyfer ffactorau cynhenid ​​i'r swydd hon. Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (y Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt) yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Os oes diddordeb gyda chi mewn bod yn Hebryngwr Croesfan Ysgol neu pe hoffech chi ragor o wybodaeth am y swyddi gwag ar hyn o bryd, ffoniwch Uned Diogelwch y Ffyrdd ar (01443) 494785.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.


Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb, ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

7 awr 30 munud yr wythnos
Dolau Primary School
Bridgend Road
Llanharan
CF72 9RP
23 Ionawr 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.