Gweld swydd wag -- Gweithiwr Glanhau Cerbydau
Mae Gwasanaethau Cerbydau'r Cyngor yn gyfrifol am gynnal a chadw tua 400 o gerbydau'r Cyngor. Maen nhw'n amrywio o faniau bychain i lorïau sbwriel 26 tunnell. Mae'r Gwasanaeth yn gofalu bod pob cerbyd yn cael ei gynnal a'i gadw yn unol â rheoliadau VOSA a'i fod yn addas ar gyfer darparu amryw wasanaethau'r Cyngor.
Prif gyfrifoldeb y swydd yma yw sicrhau bod cerbydau yn cael eu golchi'n drwyadl er mwyn galluogi staff y gweithdy i gynnal archwiliadau o'r cerbydau.
Byddwch chi'n gweithio yn unol â pholisïau'r Cyngor a Rheoli. Byddwch chi hefyd yn gofalu bod yr holl waith papur yn cael ei gwblhau a'i fod yn cydymffurfio â gweithdrefnau VOSA a'r Cyngor. Mae hon yn swydd 37 awr yr wythnos yn seiliedig ar ddwy sifft:
12:00 to 20:00 Dydd Llun i Ddydd Iau
11:30 - 19:00 Dydd Gwener
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, ffoniwch Peter Davies, Rheolwr Gweithdy/Contractau Cerbydau'r Cyngor ar (01443) 827353.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb, ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.