Gweld swydd wag -- Gweithiwr y Fynwent
Dyma gyfle i Weithiwr y Fynwent weithio gyda'r Gwasanaethau Profedigaeth ym Mynwent Aberdâr. Bydd y rôl yma'n cynnwys gweithio yn yr amlosgfa ac ar dir y fynwent yn unol â chyfarwyddiadau. Bydd y gwaith yn cynnwys torri beddau a chynnal a chadw'r tir.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gynorthwyo holl ddefnyddiwr y cyfleuster ym mhob ffordd. Bydd y rhain yn cynnwys y cyhoedd, trefnyddion angladdau, gweinidogion a seiri cerrig beddau.
Bydd gyda chi ymrwymiad cryf at ofal i gwsmeriaid, sgiliau trefnu arbennig a bydd raid ichi ddilyn Cod Arferion Gweithio Diogel ar bob adeg. Prif ddiben y swydd ydy gofalu am y sawl sy'n galaru mewn ffordd broffesiynol, urddasol.
Am sgwrs anffurfiol ynglŷn â'r swydd, ffoniwch Ceri Pritchard ar 01685 874115 neu Jayne Beer ar 01443 402810.
Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.