Gweld swydd wag -- Gweithiwr Cymorth Ymgysylltu Achlysurol
Mae Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEP) Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn chwilio am Weithwyr Cymorth achlysurol er mwyn hwyluso darpariaeth y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid o safon uchel o fewn ardal leol benodol. Bydd deiliad y swydd yn rhoi cymorth mewn perthynas â gwaith cynllunio, gweithredu a gwerthuso'r rhaglen o weithgarwch sy wedi cael ei chytuno, mewn ymgynghoriad â phobl ifainc. Bydd hyn yn cynnwys gweithgareddau sy'n cael eu cynnal gyda'r hwyr, ar y penwythnosau ac yn ystod gwyliau'r ysgol. Bydd angen i ddeiliad y swydd baratoi, cyflawni a gwerthuso gweithgareddau dysgu mewn amrywiaeth o leoliadau yn unol â'r Strategaeth Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid yn ôl cyfarwyddiadau arweinydd y garfan. Bydd angen iddo hefyd sicrhau lles pobl ifainc trwy lynu wrth bolisïau diogelu ac iechyd a diogelwch.
Rydyn ni'n chwilio am nifer o Weithwyr Cymorth achlysurol fydd yn helpu'r gwasanaeth yn ôl yr angen. Os oes profiad gyda chi o weithio gyda phobl ifainc ac ymrwymiad at yrru'r agenda yma yn ei flaen, gofynnwch am ragor o wybodaeth.
Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio i gefndir ymgeiswyr llwyddiannus yn drylwyr.
Am ragor o fanylion, ffoniwch Nicola Murphy, Arweinydd y Garfan, Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid ar (01443) 281436 neu e-bostio Nicola.j.murphy@rctcbc.gov.uk.
Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.