Gweld swydd wag -- Uwch Dechnegydd (Arolygwr)

Penseiri, Peirianwyr a Thirfesurwyr
Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen
Priffyrdd a Gofal y Strydoedd
Gradd 8
£26,317
Amser Llawn Parhaol

Mae Isadran Cynlluniau Strategol y Cyngor yn gyfrifol am werthuso, dylunio, adeiladu, goruchwylio a rheoli amrywiaeth eang o brosiectau cyffrous a heriol. Mae'r rhain yn cynnwys prosiectau adfer tir, draenio, sefydlogi tir, a phrosiectau ar dir wedi'i lygru a phriffyrdd. Mae'r adran Cynlluniau Strategol hefyd yn gyfrifol am Reoli Perygl Llifogydd a Thipio a Rheoli Traffig.

Rydyn ni eisiau penodi unigolyn addas i roi cymorth yn rhan o garfan Rheoli Perygl Llifogydd. Bydd yr unigolyn yn gallu cyfrannu at gyflawni'r swyddogaethau gofynnol o dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 drwy gynnal a datblygu cronfeydd data, haenau Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol a gwybodaeth ar y we.

Yn ogystal, byddwch chi'n cyfrannu at y swyddogaethau sy'n ofynnol o dan Ddeddf Awgrymiadau Mwynfeydd a Chwareli (Tomennydd) 1969 trwy gynnal Arolygiadau Tomenni a chynorthwyo i adolygu'r amserlen arolygu yn barhaus. Byddwch chi hefyd yn cynnal Ymchwiliadau Llifogydd, ymchwiliadau safle, arolygon ac yn cynorthwyo i ymateb i gwynion ac ymholiadau yn unol â pholisi'r cyngor.

Mae'n hanfodol fod gwybodaeth dda gyda chi o faterion draenio a gwaith adeiladu cyffredinol. Mae gwybodaeth ynglŷn â gwaith peirianneg yn ymwneud â dŵr/yr amgylchedd yn ddymunol. Mae profiad mewn Arolygu ac Adrodd ar Asedau a Goruchwylio a rheoli ansawdd contractau yn hanfodol. Mae profiad o arolygu, samplu amgylcheddol a rheoli asedau yn ddymunol.

Am drafodaeth anffurfiol neu wybodaeth bellach am y sefyllfa, ffoniwch Mr Owen Griffiths Rheoli Perygl Llifogydd a Thomenni Glo ar (01443) 281107.


Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Ty Sardis
Sardis Road
Pontypridd
CF37 1DU
20 Ionawr 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.