Gweld swydd wag -- Cydlynydd Prosiect yr Eisteddfod - Cyfnod Penodol

Arall
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned
Gradd 10
£31,371
Amser llawn dros dro

Cydlynydd Prosiect

Tymor penodol, amser llawn tan 30 Medi 2022

Yn dilyn cais llwyddiannus y Cyngor i gynnal Eisteddfod Genedlaethol 2022, mae cyfle cyffrous ac unigryw ar gael ar gyfer Cydlynydd Prosiect. O gael eich penodi i'r swydd, bydd gyda chi hanes da o ymgysylltu â chymunedau a phrofiad o weithio mewn partneriaeth gydag ystod eang o sefydliadau er mwyn hwyluso cynnal achlysuron a gweithgareddau. Bydd y swydd eang ac amrywiol hon yn gofyn am unigolyn llawn cymhelliant sydd â’r gallu i weithio ar ei ben a’i bastiwn ei hun.

A'ch swyddfa yn bennaf ym mhencadlys y Cyngor yng Nghwm Clydach, bydd gofyn i chi weithio ar draws adrannau'r Cyngor a gyda sefydliadau allanol, felly mae'r modd i deithio'n annibynnol yn hanfodol. Byddwch chi hefyd yn rhugl yn y Gymraeg.

Hoffech chi sgwrs anffurfiol ynglŷn â'r swydd? Cysylltwch â Wendy Edwards, Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau yn y Gymuned ar (01443) 425512 neu 07557082875, neu drwy e-bost at wendy.edwards@rctcbc.gov.uk.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
The Pavilions
Clydach Vale
Tonypandy
CF40 2XX
5 Ionawr 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.