Gweld swydd wag -- Tiwtor y Gymraeg

Arall
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned
Gradd 7
£23,836
Rhan-amser Parhaol

Swydd newydd! Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am benodi Tiwtor y Gymraeg rhan-amser i ddarparu cyfleoedd dysgu i weithwyr y Cyngor i wella eu sgiliau iaith Gymraeg. Bydd gofyn bod gyda chi gymhwyster addysgu neu hyfforddi a phrofiad o gynnal cyrsiau o’r safon orau ar gyfer dysgwyr o bob gallu.

Mae llawer o fanteision dros weithio i’r Cyngor - gwyliau hael â thâl, pensiwn, gwasanaeth iechyd galwedigaethol, oriau hyblyg - i sôn am ond rai!

Os hoffech chi drafod manylion y swydd yn anffurfiol, ffoniwch Reolwr Gwasanaethau Cymraeg y Cyngor, Steffan Gealy ar  (01443) 570002.

 

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

22 awr
The Pavilions
Clydach Vale
Tonypandy
CF402XX
6 Mawrth 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.