Sut i ddileu cwcis yn Netscape

Er mwyn galluogi cwcis, bydd eisiau i chi wneud newidiadau i ffurfweddiad eich porwr. Bydd y newidiadau hyn yn amrywio yn ôl y fersiwn o Netscape rydych chi'n ei defnyddio:

Netscape 6.x

  • Ewch i ‘Tasks’ ar frig y dudalen.
  • Dewiswch ‘Privacy and Security’.
  • Dewiswch ‘Cookie Manager’.
  • Cliciwch ar ‘View Stored Cookies’.




Dewiswch ‘Stored Cookies’.



Cewch chi ddileu cwcis unigol neu glicio ar y botwm ‘Remove all cookies’.

Netscape 4.x

  • Yn achos Netscape 4, mae'r holl gwcis yn cael eu storio mewn un ffeil (o'r enw ‘Cookies.txt’) yn y ffolder ‘Preferences’, felly, mae'n hawdd dod o hyd iddyn nhw, a'u dileu.
  • Cewch chi ddod o hyd i'r ffolder drwy ddefnyddio meddalwedd rheoli ffeiliau er mwyn chwilio am ‘cookies.txt’ yn eich gyriant disg caled.
  • Cewch chi ddod o hyd i'r rhain drwy glicio ar y botwm ‘Start’ yn Windows.
  • Yna, dewiswch ‘Find’ a chliciwch ar ‘Files or Folder’.




  • Bydd ffenestr ‘Find files’ yn ymddangos.
  • Yn y blwch ‘Name & Location’, teipiwch enw'r ffeil, sef ‘Cookies.txt’.
  • Cliciwch ar ‘Search’.
  • Yna, cliciwch ar ‘Cookies.txt’ yn y blwch yng ngwaelod y ffenestr er mwyn ei oleuo.




Yn y ffenestr ‘Find files’, ewch i ‘File’, dewiswch ‘Delete’ a bydd y ffeil yn cael ei ddileu.



Gall defnyddwyr Netscape 4.x, hefyd, atal cwcis rhag cael eu hysgrifennu ar y disg caled drwy droi'r cwcis yn ffeiliau ‘darllen yn unig’ (‘read only’). Serch hynny, hyd yn oed os nad yw'r porwr yn gallu ‘ysgrifennu’ cwcis ar y disg caled, gall y porwr storio cwcis a chreu ffeil cwcis newydd.