Gweld swydd wag -- Therapydd Galwedigaethol yn y Gymuned
Carfan Addasu ac Offer yn y Gymuned
Rydyn ni'n gwahodd ceisiadau ar gyfer Therapydd Galwedigaethol yn y Gymuned i ymuno â Charfan Addasiadau ac Offer yn y Gymuned sydd â'i swyddfa yn Nhŷ Elái.
 hithau'n rhan o Wasanaeth Tymor Byr ehangach, gan gynnwys y gwasanaethau Ailalluogi a Chymorth Gartref, Carfan Gwasanaethau Synhwyraidd a Charfan Rheoli Gofal Tymor Byr, mae Carfan Addasiadau ac Offer yn y Gymuned yn gweithio'n agos gyda'i chydweithwyr i sicrhau deilliannau cadarnhaol ar gyfer defnyddwyr ein gwasanaethau a'u teuluoedd/cynhalwyr. O'ch penodi i'r swydd byddwch chi'n ymuno â charfan brofiadol, sydd wedi ennill ei phlwyf, sy'n cynnwys Therapyddion Galwedigaethol a Gweithwyr Gofal y Gymuned a fydd yn gallu eich cynorthwyo chi i wneud y gorau o'r cyfle yma.
Mae disgwyl i'r Therapydd Galwedigaethol yn y Gymuned fod yn berson blaenweithgar sydd â'r brwdfrydedd i chwarae rhan weithredol wrth ddarparu gwasanaeth o safon uchel i ddefnyddwyr ein gwasanaeth. Mae gwerthoedd cadarn, sgiliau cyfathrebu ardderchog ac agwedd sy'n rhoi'r cleient yn gyntaf yn gwbl hanfodol.
Mae Carfan Addasu ac Offer yn y Gymuned (ACE) yn rhan o wasanaeth blaengar, ac un o'i dargedau ar gyfer y dyfodol yw bod modd iddi ymateb yn gyflym i anghenion oedolion sy'n agored i niwed bob diwrnod. Bydd rôl y Therapydd Galwedigaethol yn rhan annatod o hyn ac felly, rhaid i ymgeiswyr fod yn hyblyg o ran eu hagweddau, yn ogystal â bod â'r sgiliau i ymateb i newidiadau posibl wrth i'r gwaith yma ddatblygu.
O'ch penodi i'r swydd bydd eich dyletswyddau yn cynnwys asesu unigolion yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014), argymell gwaith addasu mawr a bach, a phennu a darparu offer i gynnal annibyniaeth. Bydd gennych chi gyfle i ddefnyddio neu ddatblygu sgiliau codi a chario.
Bydd Uwch Therapydd Galwedigaethol yn eich goruchwylio'n aml a bydd cyfleoedd hyfforddi a datblygu ar gael.
Mae rhaid i chi fod yn Therapydd Galwedigaethol cymwysedig ac wedi cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal. Byddai profiad o ymdrin â phroses grant cyfleusterau i'r anabl yn fuddiol, ond nid yw'n angenrheidiol gan y bydd hyfforddiant mewnol yn cael ei ddarparu. Byddai profiad o asesiad gweithgaredd neu waith cymunedol yn fuddiol ond mae croeso i Therapyddion Galwedigaethol newydd gymhwyso gyflwyno cais.
Bydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn rota ar gyfer gwasanaeth ymateb Cadw'n Iach yn y Cartref drwy gydol y flwyddyn.
Pe hoffech chi gael rhagor o fanylion am y swydd yma, ffoniwch Sarah Evans - Rheolwr y Garfan ar 01443 425446 neu'r Uwch Therapydd Galwedigaethol ar 01443 425764.
Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.