Gweld swydd wag -- Uwch Ymarferydd - Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc

Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifainc
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 12
£37,849
Amser llawn dros dro

Rydyn ni'n chwilio am Uwch Ymarferydd Profiadol i ymuno â Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc Cwm Taf. O'ch penodi i'r swydd, byddwch chi'n rheoli nifer benodol o achosion a gweithio mewn amgylchedd heriol, ond un sy'n rhoi cymorth a boddhad.  Bydd disgwyl i chi fentora eraill pan fo angen hynny ar ymarferwyr newydd gymhwyso ac ymrwymo i gyflawni datblygiad personol. Yn y rôl yma bydd disgwyl i chi ddirprwyo dros reolwr eich carfan yn achlysurol. Byddwch chi hefyd yn cael sesiynau goruchwylio anffurfiol a ffurfiol a bydd nifer o gyfleoedd hyfforddi priodol ar gael.

Rhaid i chi feddu ar gymhwyster gwaith cymdeithasol cydnabyddedig a chael o leiaf tair blynedd o brofiad ôl-gymhwyso. Rhaid i chi ddeall goblygiadau Deddf Plant 1989, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a deddfwriaeth berthnasol arall i ymarfer. Mae hyn yn cynnwys deddfwriaeth cyfiawnder ieuenctid. Rhaid i chi fod wedi gweithio ym maes gwasanaethau i blant a phobl ifainc, neu fod â diddordeb mewn gwneud hynny. A chithau wedi ymroi i ymarfer sydd heb fod yn ormesol, byddwch chi'n dod â sgiliau asesu, cyfathrebu a chynllunio cadarn i'r swydd.

O'ch penodi i'r swydd, bydd yn ofynnol i chi gofrestru'n Weithiwr Cymdeithasol gyda Chyngor Gofal Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Steph Webber, Rheolwr Gweithrediadau, ar (01685) 724960.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.


Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Unit 2, Maritime Business Park
Maritime Industrial Estate
Pontypridd
CF37 1NY
7 Ionawr 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.