Gweld swydd wag -- Technegydd
Dros dro-i ddechrau tan 31 Mawrth 2021
Mae Isadran Cynlluniau Strategol y Cyngor yn gyfrifol am werthuso, dylunio, adeiladu, goruchwylio a rheoli amrywiaeth eang o brosiectau cyffrous a heriol. Mae'r rhain yn cynnwys prosiectau adfer tir, draenio, sefydlogi tir, prosiectau ar dir wedi'i lygru a phriffyrdd. Mae gyda'r Adran Prosiectau Strategol gyfrifoldeb hefyd dros Reoli Perygl Llifogydd a Thomenni Glo a Rheoli Traffig.
Rydyn ni eisiau penodi unigolyn addas i helpu'n bennaf ym maes Rheoli Perygl Llifogydd. Bydd yr unigolyn yn gallu cyfrannu at gyflawni'r swyddogaethau gofynnol o dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 drwy gynnal a datblygu cronfeydd data, haenau Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) a gwybodaeth ar y we. Yn ogystal â hyn, bydd gofyn i'r unigolyn gynorthwyo i archwilio safleoedd, cynnal arolygon a gwerthusiadau, a dylunio a pharatoi dyluniadau pan fo angen. Mae gwybod am Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol yn hanfodol, ac mae gwybodaeth am waith peirianneg cysylltiedig â dŵr/yr amgylchedd hefyd yn ddymunol. Mae profiad o AutoCad, Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol a Meddalwedd MS Office yn hanfodol ac mae profiad o arolygu, samplu amgylcheddol a rheoli asedau yn ddymunol.
Am drafodaeth anffurfiol neu wybodaeth bellach am y swydd, ffoniwch Mr Owen Griffiths Rheolwr Perygl Llifogydd, Dŵr a Thomenni ar (01443) 281107.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.