Gweld swydd wag -- Cynorthwy-ydd Gofal/Cynnal Cartref (swydd achlysurol) - Parc Newydd
CYNORTHWYWYR GOFAL/CYNNAL CARTREF (SWYDDI ACHLYSUROL)
CARTREF GOFAL PARC NEWYDD, TONYSGUBORIAU
Rydyn ni'n dymuno penodi staff i weithio'n achlysurol pan fo staff parhaol yn absennol. Bydd gofyn eich bod chi ar gael ar fyr rybudd i weithio yn ystod yr wythnos, dros y penwythnos a chyda'r nos.
Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys tasgau cyffredinol yn ymwneud â chynnal cartref, gwaith cegin a gofal personol y preswylwyr a defnyddwyr y gwasanaeth.
Bydd ymgeiswyr ar gyfer y swydd yma yn deall beth ydy anghenion y to hŷn. Mae profiad blaenorol o weithio gyda phobl hŷn neu o dreulio amser yn eu cwmni yn hanfodol.
Byddwch chi'n cael cymorth trwy fframwaith sefydlu – rhaglen yw hon gyda’r nod o’ch paratoi chi ar gyfer eich swydd newydd. Yn ogystal â hynny, bydd disgwyl ichi weithio tuag at ennill Cymhwyster Fframwaith Cymwysterau a Chredydau Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn i weithio sifftiau gofal ac i fodloni gofynion Deddf Safonau Gofal.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Ruth Picton yng Nghartref Gofal Parc Newydd ar (01443) 237848.
Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.