Gweld swydd wag -- Uwch Reolwr y Prosiect
Carfan Prosiectau
Mae Adran Prosiectau Strategol y Cyngor yn gyfrifol am werthuso, dylunio, adeiladu, goruchwylio a rheoli amrywiaeth eang o brosiectau cyffrous a heriol. Mae'r rhain yn cynnwys prosiectau isadeiledd y priffyrdd, trafnidiaeth, adfer tir, draenio, sefydlogi'r tir a thir wedi'i halogi. Mae gyda'r adran gyfrifoldeb hefyd dros Reoli Perygl Llifogydd a Thomenni.
Rydyn ni eisiau penodi uwch reolwr prosiect i helpu'n bennaf ym maes prosiectau'r gwasanaeth. Bydd y person yn gyfrifol am reoli prosiectau isadeiledd cymhleth, ac yn arwain y prosiectau yma, ym mhob cam paratoi a gweithredu o waith cyflawni'r prosiect. Mae'n hanfodol fod gwybodaeth dda am faterion Peirianneg Sifil a rheoli prosiect gyda'r unigolyn. Mae gwybodaeth ynglŷn â gwaith peirianneg sy'n ymwneud â dŵr/yr amgylchedd yn ddymunol.
Rhaid i ddeiliad y swydd feddu ar gymhwyster Tystysgrif Genedlaethol Uwch/Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Peirianneg Sifil neu bwnc tebyg. Byddai cymhwyster proffesiynol IEng. neu uwch yn ddymunol. Rhaid i'r ymgeisydd meddu ar brofiad ym maes Peirianneg Sifil, gan gynnwys rheoli prosiect, rheoli cyllideb a llunio/gwerthuso prosiectau yn ogystal â sgiliau llafar, ysgrifenedig, cyfathrebu a TGCh da.
I gael trafodaeth anffurfiol neu wybodaeth bellach am y swydd, ffoniwch Mr David Afia, Rheolwr Prosiectau Cyfalaf ar (01443) 281175.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb, ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.