Gweld swydd wag -- Swyddog Adsefydlu ar gyfer Pobl â Nam ar eu Golwg

Gofal Cymdeithasol - Oedolion
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Ymyrraeth Tymor Byr i Oedolion
Gradd 10
£31,371
Amser Llawn Parhaol

Carfan Materion y Synhwyrau

Rydyn ni'n awyddus i recriwtio Swyddog Adsefydlu cymwys i weithio gyda phobl â nam ar eu golwg yn Rhondda Cynon Taf (rhaid meddu ar Ddiploma mewn Astudiaethau Adsefydlu Nam ar y Golwg neu gymhwyster cyfwerth blaenorol cydnabyddedig). Mae'r garfan yn wasanaeth ardal gyfan RhCT ac mae'n manteisio ar ddulliau gweithio hyblyg.

Mae Carfan Materion y Synhwyrau yn garfan arbenigol sy'n canolbwyntio ar Ymyrraeth Gynnar ac Atal ac yn gweithio gydag unigolion a'u cynhalwyr sy'n profi nam ar y synhwyrau, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014). Mae Carfan Materion y Synhwyrau, sy'n rhan o'r Gwasanaethau Tymor Byr ehangach, yn gweithio'n agos â'u cydweithwyr i gyflawni deilliannau cadarnhaol ar gyfer unigolion a'u teuluoedd/cynhalwyr wrth gydbwyso risg ag annibyniaeth a dewis yr unigolyn. Mae disgwyl, felly, i weithwyr yn y garfan yma fod yn rhagweithiol. Byddan nhw hefyd yn gallu adnabod y cyfoeth o brofiad sydd ar gael iddyn nhw, a manteisio ar hynny, yn y Gwasanaethau Tymor Byr. Rydyn ni'n chwilio am unigolyn brwdfrydig sydd â sail gwerthoedd cadarn, sydd â sgiliau cyfathrebu arbennig ac sydd â dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth weithio gydag unigolion sy'n profi nam ar y golwg.

Byddwch chi'n darparu gwasanaeth asesu arbenigol i bobl â nam ar eu golwg a phobl fyddarddall o bob oed sy'n cael eu hatgyfeirio gan bob carfan o'r Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant ac ystod o asiantaethau partner. Mae hyn yn cynnwys Tystysgrifau Nam ar y Golwg o Glinigau Llygaid Ysbytai a Chardiau Cofnodi Golwg Gwan gan Optometryddion achrededig.

Byddwch chi'n cynllunio a gweithredu rhaglenni adsefydlu unigol ac yn sicrhau bod modd i unigolion gyflawni hyd gorau eu gallu, gan eu galluogi i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel yn y gymuned. Mae cyfleoedd hefyd i wneud gwaith datblygu a chyfrannu at hyfforddiant i godi ymwybyddiaeth.

Byddwch chi'n ymuno â charfan gefnogol o 2 Swyddog Adsefydlu, Cynorthwyydd Adsefydlu a gweithwyr arbenigol gyda phobl Fyddar a Thrwm eu Clyw. Bydd gweithiwr adsefydlu proffesiynol yn eich goruchwylio ac yn arsylwi eich gwaith yn rheolaidd, a bydd modd i chi fynychu cyrsiau hyfforddi mewnol ac allanol.

Mae'r garfan wedi'i lleoli yn Nhŷ Elái, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam ond mae'r swydd yn cwmpasu ardal gyfan Rhondda Cynon Taf. Hefyd, modd gweithio'n hyblyg ar draws y fwrdeistref.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r swydd yma, ffoniwch Gwenda Lewis, Rheolwr y Garfan, ar (01443) 425491.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Ty Elai
Dinas Isaf East
Williamstown
CF40 1NY
31 Hydref 2019
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.