Sut i ddileu cwcis yn Netscape
Er mwyn galluogi cwcis, bydd eisiau i chi wneud newidiadau i ffurfweddiad eich porwr. Bydd y newidiadau hyn yn amrywio yn ôl y fersiwn o Netscape rydych chi'n ei defnyddio:
Netscape 6.x
- Ewch i ‘Tasks’ ar frig y dudalen.
- Dewiswch ‘Privacy and Security’.
- Dewiswch ‘Cookie Manager’.
- Cliciwch ar ‘View Stored Cookies’.
Dewiswch ‘Stored Cookies’.
Cewch chi ddileu cwcis unigol neu glicio ar y botwm ‘Remove all cookies’.
Netscape 4.x
- Yn achos Netscape 4, mae'r holl gwcis yn cael eu storio mewn un ffeil (o'r enw ‘Cookies.txt’) yn y ffolder ‘Preferences’, felly, mae'n hawdd dod o hyd iddyn nhw, a'u dileu.
- Cewch chi ddod o hyd i'r ffolder drwy ddefnyddio meddalwedd rheoli ffeiliau er mwyn chwilio am ‘cookies.txt’ yn eich gyriant disg caled.
- Cewch chi ddod o hyd i'r rhain drwy glicio ar y botwm ‘Start’ yn Windows.
- Yna, dewiswch ‘Find’ a chliciwch ar ‘Files or Folder’.
- Bydd ffenestr ‘Find files’ yn ymddangos.
- Yn y blwch ‘Name & Location’, teipiwch enw'r ffeil, sef ‘Cookies.txt’.
- Cliciwch ar ‘Search’.
- Yna, cliciwch ar ‘Cookies.txt’ yn y blwch yng ngwaelod y ffenestr er mwyn ei oleuo.
Yn y ffenestr ‘Find files’, ewch i ‘File’, dewiswch ‘Delete’ a bydd y ffeil yn cael ei ddileu.
Gall defnyddwyr Netscape 4.x, hefyd, atal cwcis rhag cael eu hysgrifennu ar y disg caled drwy droi'r cwcis yn ffeiliau ‘darllen yn unig’ (‘read only’). Serch hynny, hyd yn oed os nad yw'r porwr yn gallu ‘ysgrifennu’ cwcis ar y disg caled, gall y porwr storio cwcis a chreu ffeil cwcis newydd.