Sut i ddileu cwcis yn Internet Explorer

Internet Explorer 6

  • Agorwch Internet Explorer.
  • Ewch i ‘Tools’, yna, cliciwch ar ‘Internet options’.




Cliciwch ar y tab ‘General’.



Cliciwch at y botwm ‘Delete cookies’ a chliciwch ar ‘OK’ er mwyn dileu pob cwci yn y blwch ‘temporary files’.



Cliciwch ar y botwm ‘Delete files’. (Gwnewch yn siŵr eich bod chi, hefyd, yn ticio ‘Delete all offline content’).



Yna, cliciwch ar y tab ‘Privacy’ ac ‘Advanced options’ (gwnewch yn siŵr bod tic gwyrdd yn y blwch ‘Override auto cookie handling’ a thic gwyrdd yn y blwch ‘Always allow session cookies’).



Cliciwch ar ‘OK’ ym mhob ffenestr, aildeipiwch gyfeiriad y wefan a mynd trwy'r camau hyd nes y byyddwch chi'n cyrraedd y ffurflen gais.


Internet Explorer 5
Ewch i ‘Tools’, yna, cliciwch ar ‘Internet options’.



Yna, cliciwch ar y tab ‘General’.



  • Yn yr adran ‘Temporary Internet Files’, cliciwch ar y botwm ‘Delete Files’.
  • Bydd y ffenestr ‘Delete all files in the Temporary Internet Files folder’ yn ymddangos. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ticio ‘Delete all offline content’.




Cliciwch ar ‘OK’.