Gweld swydd wag -- Cynorthwy-ydd Hamdden - Lefel 1
Mae cyfle wedi codi i ymuno â'n carfan o Gynorthwywyr Hamdden mewn rôl Lefel 1 am 23.5 awr yr wythnos yn ein canolfan hamdden brysur. Eich prif gyfrifoldebau fydd i ymgymryd â dyletswyddau achubwr bywyd, gosod a dadosod yr holl offer sydd eu hangen mewn modd diogel a sicrhau diogelwch a glendid yr holl offer sy'n cael eu darparu.
Bydd gofyn i chi hefyd ddarparu gwasanaeth rhagorol i'n holl gwsmeriaid a bod yn hyblyg gyda'ch dull o ymdrin â'r ystod o ddyletswyddau y byddwch chi'n gyfrifol amdanyn nhw. Bydd cyfle hefyd i weithio oriau ychwanegol ar gyfer gwyliau neu salwch. Mae'r rôl yn gofyn am waith gyda'r nos ac ar benwythnosau.
Am ragor o wybodaeth neu i gael sgwrs anffurfiol am y rôl, ffoniwch Gary Dalton ar (01443) 224616 neu e-bostiwch gary.d.dalton@rctccbc.gov.uk.
Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.