Gweld swydd wag -- Swyddog Comisiynu a Monitro Rhanbarthol – Swydd Dros Dro

Rheoli
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Unid Comisiynu Rhanbarthol
Gradd 11
£34,788
Amser llawn dros dro

UNED COMISIYNU RHANBARTHOL

RHONDDA, CYNON, TAF, MERTHYR TUDFUL, PEN-Y-BONT AR OGWR A BWRDD IECHYD PRIFYSGOL CWM TAF MORGANNWG

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cwm Taf am gryfhau ei adnodd Comisiynu ar y Cyd. Rydyn ni'n falch o gael arwain y broses o roi'r agenda integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd ar waith, ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf, Cyngor Merthyr Tudful, Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2016. Ac yntau wedi'i seilio ar waith partner cadarn ar draws y rhanbarth, mae'r bartneriaeth yn awyddus i gyflymu'r broses o integreiddio'n gwasanaethau ymhellach, fel bydd modd i'r bobl sy'n derbyn y gofal a'r cymorth fanteisio ar ofal di-dor sydd wedi'i deilwra i'w hanghenion.

I gefnogi rhaglen waith y Cynllun Ardal Rhanbarthol, bydd yr Uned Comisiynu Rhanbarthol ar y Cyd (lle bo comisiynu integredig yn fuddiol) yn mapio'r galw, datblygu manylebau gwasanaeth gyda staff rheng flaen a defnyddwyr gwasanaeth a monitro deilliannau, gan sicrhau gwerth am arian a bod y gwasanaethau er budd gorau cleientiaid/cleifion a chynhalwyr. Bydd yr Uned yn cael ei chefnogi gan ddisgyblaethau arbenigol o sefydliadau partner eraill fel y bo'n briodol, gan gynnwys cyllid, caffael, Adnoddau Dynol, cyflawniad a gwybodaeth.

Rydyn ni'n awyddus i benodi unigolyn o blith ein sefydliadau partner sy'n  fedrus iawn ac sydd â'r cymwysterau a'r profiad priodol. Bydd cymhelliant, brwdfrydedd ac arbenigedd yr unigolyn yn ffurfio carfan effeithiol i gyflawni'r agenda bwysig yma.

Bydd y swydd ganlynol sydd ar agor i bartneriaid, yn cael ei chynnal gan Gyngor RhCT, ond byddwch chi'n gweithio'n agos gyda'r holl bartneriaid, drwy Grŵp Arweiniol Trawsffurfiol Partneriaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cwm Taf.

Mae modd cynnig pob swydd fel cyfle secondiad (hyd at 31 Mawrth 2021) gyda chaniatâd rheolwr llinell yr ymgeisydd. Bydd hawl gan yr ymgeiswyr llwyddiannus barhau â'u Telerau ac Amodau, naill ai gyda'u cyflogwyr ym maes Iechyd neu Lywodraeth Leol.

Byddwch chi'n gyfrifol am y canlynol:

  • Cynorthwyo Pennaeth yr Uned Gomisiynu Ranbarthol a'r Swyddogion Comisiynu Rhanbarthol i fonitro cyflawniad a chydymffurfiaeth y cronfeydd gofal integredig (ICF) a'r rhaglenni eraill wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru, sy wedi'u comisiynu ar draws rhanbarth Cwm Taf Morgannwg (Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr).

 

  • Monitro a chydlynu cyflawniad rhaglenni a gwybodaeth ariannol, er mwyn sicrhau gwell deilliannau i bobl, plant a theuluoedd sy'n agored i niwed.

 

  • Datblygu adroddiadau cyflawniad ar gyfer prosiectau penodol a llunio adroddiadau cyflawniad rhaglenni ar gyfer grwpiau rheoli a bwrdd partneriaeth rhanbarthol yn ôl y gofyn.

 

  • Goruchwylio a dadansoddi gweithgareddau cyflenwi gwasanaethau ac adroddiadau monitro cyflawniad a thynnu sylw at feysydd i'w gwella.

 

  • Cefnogi prosiectau er mwyn gwella data cyflawniad gweithgareddau gwasanaethau lle bo angen.

 

  • Cydgysylltu a monitro cyfranogiad defnyddwyr gwasanaethau er mwyn sicrhau bod safbwyntiau defnyddwyr gwasanaethau, teuluoedd a chynhalwyr yn cael eu cynnwys wrth ddatblygu, cyflenwi a dylunio gwasanaethau.

 

I gael rhagor o fanylion am y swydd, yn enwedig am gymwysterau a phrofiad, edrychwch ar y disgrifiad swydd a'r fanyleb person sydd ar gael.

Ffoniwch Sarah Mills, Pennaeth yr Uned Comisiynu Rhanbarthol ar (01443) 570046 i gael trafodaeth anffurfiol am y cyfleoedd hyn.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n drylwyr i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.


Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol.  Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda rhanbarth Cwm Taf.

37
Cwm Taf University Health Board
Headquarters
Ynysmeurig House
CF45 4SN
13 Rhagfyr 2019
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.