Gweld swydd wag -- Hyfforddwr Chwaraeon Achlysurol – Athrawon Nofio yn unig

Hamdden
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned
Gradd 7
£12.35 yr awr
Gweithwyr Dros Dro

Rydyn ni eisiau penodi carfan o Athrawon Nofio ymroddgar a dibynadwy i weithio yng Nghanolfannau Hamdden Rhondda Cynon Taf. Byddwch chi'n arwain sesiynau hyfforddi diogel, effeithiol a difyr sy'n bodloni anghenion y cwsmeriaid hynny sy'n eu mynychu. Yn ogystal â hynny, byddwch chi'n hyfforddi unigolion neu grŵp o gwsmeriaid, er mwyn datblygu sgiliau mewn amgylchedd pleserus.

Mae dyletswyddau eraill yn cynnwys paratoi cyfarpar a'i roi i gadw, a sicrhau Iechyd a Diogelwch y cyhoedd a chydweithwyr ar bob adeg. Mae cymwysterau perthnasol ar gyfer pob dosbarth a sesiwn yn hanfodol. Bydd rhaid dangos tystiolaeth o unrhyw gymwysterau yn ystod y cyfweliad.

Am ragor o fanylion am y swyddi, ffoniwch Jon Miles ar (01443) 670578.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Amrywiol
Sobell Leisure Centre
The Ynys
Aberdare
CF44 7RP
6 Rhagfyr 2019
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.