Gweld swydd wag -- Cydlynydd Cyfleoedd Ieuenctid yn y Gymuned

Pobl Ifainc a'r Gymuned
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 9
£28,785
Amser Llawn Parhaol

Mae Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn chwilio am Gydlynydd Cyfleoedd Ieuenctid yn y Gymuned er mwyn hwyluso darpariaeth o'r safon uchaf. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno gwasanaeth o'r safon orau mewn ardal leol benodol; cefnogi'r Awdurdod yn ei waith i wella gwydnwch pobl ifainc, gan gyd-fynd â Rhaglen Teuluoedd Cydnerth y Cyngor; bod yn rheolwr llinell ar gyfer y Gweithwyr Cymorth Ymgysylltu a staff cymorth achlysurol a chydweithio â sefydliadau a gwasanaethau eraill sy'n cefnogi pobl ifainc i greu cynnig gwaith ieuenctid mynediad agored yn y gymuned i bobl ifainc ar draws RhCT.

Rydyn ni'n awyddus i gyflogi Cydlynydd Cynnig Ieuenctid yn y Gymuned amser llawn a pharhaol. Os oes profiad gyda chi o weithio gyda phobl ifainc ac ymrwymiad at yrru'r agenda yma yn ei flaen, gofynnwch am ragor o wybodaeth.

Am ragor o fanylion, ffoniwch Nicola Murphy, Arweinydd y Garfan, Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid ar (01443) 281436 neu e-bostio Nicola.j.murphy@rctcbc.gov.uk.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Ty Trevithick
Abercynon
Mountain Ash
CF45 4UQ
25 Tachwedd 2019
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.