Gweld swydd wag -- Ymgynghorydd Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant

Addysg - dim addysgu
Prif Weithredwr
Adnoddau Dynol
Gradd 8
£26,317 pro rata x 87.45%
Dros dro - tymor ysgol yn unig

Tymor ysgol yn unig

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â charfan ddynamig a blaengar er mwyn cynnig sawl rhaglen Gyflogaeth i Bobl Ifainc ac Oedolion. 

Bydd deiliaid y swydd yn rhoi cymorth i'r Cydlynydd Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant i reoli, cydlynu a datblygu yn effeithiol y Rhaglen Gyrfaoedd a Byd Gwaith sy'n cael ei chynnal ym mhob ysgol uwchradd yn RhCT. Mae'r rhaglen yn cynnal cyfleoedd profiad gwaith i bobl ifainc ac oedolion.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyfathrebu a chyflwyno rhagorol a dealltwriaeth dda o Wybodaeth am y Farchnad Lafur, e.e. tueddiadau, sectorau sy'n tyfu, sgiliau ac ati. Byddwch hefyd yn rhugl yn y Gymraeg (lefel 5 Safonau Cymru).

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Sian Woolson ar (01443) 570036.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Ty Elai
Dinas Isaf
Williamstown
CF401NY
21 Tachwedd 2019
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.