Gweld swydd wag -- Gweithiwr Gofal Cymdeithasol - Swydd Achlysurol
Ydych chi'n chwilio am her? Ydych chi'n mwynhau rhoi cymorth i bobl? Rydyn ni am benodi unigolion brwdfrydig a chryf eu cymhelliad i ymuno â'n carfan o weithwyr gofal cymdeithasol achlysurol er mwyn bod yn gefn i unigolion sydd ag anableddau dysgu i feithrin medrau ar gyfer byw bywydau annibynnol.
Mae'r gwasanaeth yn cynnwys Gwasanaethau 'Byw gyda Chymorth' a 'Gofal Seibiant' ledled Rhondda Cynon Taf, felly bydd angen i chi weithio mewn modd hyblyg ac arloesol er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaeth a chyfrannu at ddatblygiad y Gwasanaeth Gofal Seibiant.
Byddai profiad o fod yn gefn i bobl ag anableddau dysgu yn ddymunol ond nid yn hanfodol, gan y bydd disgwyl i'r ymgeiswyr llwyddiannus arfer eu profiadau bywyd nhw'u hunain yn rhan o'u swyddogaethau. Byddwch chi'n dilyn rhaglen i'ch sefydlu yn y swydd ac yn ymgymryd â hyfforddiant parhaus, ynghyd â bod yn destun goruchwyliaeth barhaus er mwyn gweithio mewn modd effeithiol. Bydd angen cymhwyster Fframwaith Cymwysterau a Chredydau Lefel 2 arnoch chi, neu byddwch chi'n dangos ymrwymiad i ennill y cymhwyster hwnnw.
Oherwydd bod y gwasanaethau ar gael 365 diwrnod y flwyddyn, bydd gofyn i chi weithio ystod o sifftiau, gan gynnwys nosweithiau, dros nos (ar ddihun), penwythnosau a gwyliau banc gan gynnwys y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Bydd hefyd gofyn i chi wneud dyletswyddau cysgu dros nos, a bydd taliadau ychwanegol yn cael eu rhoi am y rhain.
Oherwydd gofynion Deddf Safonau Gofal 2000, rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed.
Am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol am y swydd, ffoniwch Debra Jones ar (01443) 479907.
Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeiswyr llwyddiannus.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.