Gweld swydd wag -- Technegydd
Carfan Prosiectau
Mae Adran Prosiectau Strategol y Cyngor yn gyfrifol am werthuso, dylunio, adeiladu, goruchwylio a rheoli amrywiaeth eang o brosiectau cyffrous a heriol. Mae'r rhain yn cynnwys prosiectau sy'n ymwneud â seilwaith y priffyrdd, cludiant, adfer tir, draenio, sefydlogi tir a thir wedi'i lygru. Mae gan yr adran gyfrifoldeb hefyd dros Reoli Perygl Llifogydd a Thomenni Glo.
Rydyn ni eisiau penodi unigolyn addas i helpu'n bennaf ym maes prosiectau'r gwasanaeth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo ac yn rhoi cefnogaeth i reolwyr prosiect sy'n gyfrifol am reoli (ac yn arwain ar reoli) prosiectau seilwaith cymhleth trwy bob cam o baratoi a gweithredu prosiectau.
Mae'n hanfodol bod gan ymgeiswyr wybodaeth a phrofiad o Beirianneg Sifil a phecynnau TGCh megis systemau Microsoft Office a CAD (AutoCAD) a bod ganddyn nhw sgiliau cyfathrebu da, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
I gael trafodaeth anffurfiol neu ragor o wybodaeth am y swydd, ffoniwch Mr David Afia, Rheolwr Prosiectau Cyfalaf ar (01443) 281175.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.