Gweld swydd wag -- Swyddog Cyfleoedd Oriau Dydd - Carfan Arlwyo

Gofal Cymdeithasol - Oedolion
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Uniongyrchol i Oedolion
Gradd 7
£23,836
Amser Llawn Parhaol

Learning Curve Trefforest

Mae'r Garfan Anableddau Dysgu – Gwasanaethau Oriau Dydd yn awyddus i benodi Arweinydd Carfan ymroddedig, brwdfrydig ac arloesol i ymuno â'n Carfanau Arlwyo.

Mae'r gwasanaeth yn cefnogi oedolion ag anableddau dysgu sydd, ar ôl cael eu hasesu, angen cyfleoedd yn ystod y dydd. Mae gan y gwasanaeth nifer o ganolfannau a phrosiectau sy'n rhoi gofal, cymorth a chyfleoedd oriau dydd perthnasol i unigolion sydd ag anableddau dysgu. Ein gweledigaeth ni yw rhoi cymorth i unigolion sydd ag anableddau dysgu i feithrin sgiliau byw bywyd yn annibynnol ym mhob agwedd ar eu bywydau. Drwy waith partneriaeth llwyddiannus, mae ein prosiectau Cyflogaeth a Hyfforddiant yn rhoi cymorth i unigolion sy'n mynegi diddordeb i weithio i feithrin y sgiliau, yr wybodaeth a'r hyder sydd eu heisiau arnyn nhw i wella'u cyfleoedd i ddod o hyd i waith â chyflog neu waith di-dâl.

Mae unigolion ag anableddau dysgu yn chwarae rhan sylweddol yn y Carfanau Arlwyo o fewn y mentrau Learning Curves. Mae modd ennill amrywiaeth o sgiliau ymarferol yn yr amgylchedd yma, fel cynllunio bwydlenni (gan gynnwys opsiynau iach), paratoi bwyd, gweithio'r peiriant coffi, hylendid yn y gegin, gwasanaeth i gwsmeriaid, archebu stoc, cyfrifo elw a cholled a thrin arian. Hefyd, mae modd magu sgiliau a nodweddion ychwanegol drwy'r cyfleoedd sydd ar gael, fel sut mae unigolyn yn cyflwyno'i hun i eraill, rhyngweithio cymdeithasol, datblygu egwyddorion gwaith, ymrwymiad i weithio'n rhan o garfan, bod yn brydlon bob amser a chyfathrebu effeithiol. Yn ogystal â hyn, bydd hyder, hunan-werth a chyfleoedd yr unigolyn i gael gwaith yn cynyddu drwy'r ddarpariaeth o hyfforddiant ffurfiol a thystysgrifau cysylltiedig.

Byddwch chi'n deall y materion sy'n wynebu pobl ag anableddau dysgu, gan gynnwys cyfleoedd cyfartal ac arfer gwrthwahaniaethol.

Dan gyfarwyddyd Rheolwr y Gwasanaeth Oriau Dydd, bydd gofyn i chi oruchwylio'r Garfan Arlwyo o ddydd i ddydd. Bydd gofyn i chi arwain a threfnu staff ac adnoddau wrth gyflenwi'r prosiect er mwyn diwallu anghenion unigolion mewn modd cynhwysol. Hefyd, bydd gofyn i chi hwyluso gwaith tîm da, neilltuo gwaith, cynorthwyo a goruchwylio Gweithwyr Cyfleoedd Oriau Dydd a sicrhau bod aelodau'r garfan yn cyfathrebu'n effeithiol ac yn rhannu gwybodaeth.

Bydd gofyn i chi gydymffurfio â gweithdrefnau Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell, yn ogystal â chwblhau'r gwaith papur perthnasol, ac ymateb i archwiliadau Iechyd a Diogelwch mewnol y mae'r Gwasanaethau Arlwyo ac Amgylcheddol yn eu cynnal.

Mae profiad blaenorol o ddyfeisio a monitro cynlluniau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn hanfodol. Bydd gofyn i chi ddatblygu cynlluniau unigol sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau ar gyfer pobl sy'n derbyn y gwasanaeth er mwyn ymateb i'w hanghenion, gan ymgysylltu â theuluoedd yr unigolion dan sylw, a gweithwyr proffesiynol eraill, lle bo'n briodol, gan gynnwys cynlluniau asesu a rheoli risgiau a systemau gwaith diogel.

O ran arfer, bydd gofyn i chi hyrwyddo safonau uchel, gan gynnwys nodi a chynorthwyo anghenion dysgu a datblygu unigolion a staff. Hefyd, bydd gofyn i chi gymryd cyfrifoldeb personol dros Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus eich hun, a chymryd rhan mewn hyfforddiant perthnasol fel sy'n cael ei nodi yn y broses oruchwylio a/neu arfarnu, ac fel sy'n ofynnol gan yr Awdurdod.

Bydd gofyn i chi ddefnyddio cyfrifiadur a meddu ar sgiliau ysgrifenedig a llafar rhagorol er mwyn cadw cofnodion a chyfathrebu'n effeithiol ag unigolion sy'n derbyn y gwasanaeth, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill.

Hefyd, bydd gofyn i chi gadw at arferion gwaith diogel a'u hyrwyddo, a sicrhau amgylchedd diogel.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â Charfan Arlwyo yn ein prif ganolfan yn Nhaf Elái.  Fel bod modd i chi gyflawni'ch gwaith yn effeithiol, byddwch chi'n derbyn sesiwn gynefino, hyfforddiant parhaus a goruchwyliaeth.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Julie Richards, Rheolwr y Gwasanaeth Oriau Dydd ar (01443) 841235, neu Alison Evans, Rheolwr y Gwasanaeth Oriau Dydd ar (01443) 436937.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Gan fod nifer fawr o Ffurflenni Cais yn dod i law ar hyn o bryd, fydd ceisiadau unigol ddim yn cael eu cydnabod. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Treforest Learning Curve
Unit G7
Treforest Industrial Estate
CF37 5YL
16 Rhagfyr 2019
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.