Gweld swydd wag -- CYNORTHWY-YDD BWYDYDD A CHLEFYDAU TROSGLWYDDADWY (GORFODI)

Iechyd yr amgylchedd
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned
Gradd 9
£29,577
Amser llawn dros dro

CYNORTHWY-YDD BWYDYDD A CHLEFYDAU TROSGLWYDDADWY (GORFODI)

LLAWN AMSER, DROS DRO – GRADD 9 – £29,577

Mae'r Cyngor yn bwriadu penodi Cynorthwywyr Bwydydd a Chlefydau Trosglwyddadwy dros dro, llawn amser gyda phwyslais ar orfodi i gefnogi Ymateb Rhanbarthol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i Bandemig Covid-19 yn rhan o'r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gyflawni dyletswyddau mewn perthynas â strategaethau gorfodi amgen a helpu i arolygu safleoedd bwyd, archwilio i achosion o wenwyn bwyd a rhoi cyngor i fusnesau a'r cyhoedd. Dyma ddull partneriaeth felly byddwch chi'n cefnogi'r gwasanaeth yma ar ran y tri awdurdod lleol sef Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Bydd gyda chi brofiad o ddelio â data cyfrinachol, a chynnal a chadw cofnodion mewn ffordd addas. Mae'n ddymunol bod gan ddeiliad y swydd brofiad o weithio mewn amgylchedd gorfodi a phrofiad ym maes hylendid bwyd a/neu faterion iechyd a diogelwch, ynghyd â thystysgrif hylendid bwyd ar lefel ganolradd neu lefel uwch.

Am sgwrs anffurfiol, ffoniwch Rhian Hope, Rheolwr Trwyddedu a Diogelu Iechyd, neu Joshua Jolliffe, Uwch Swyddog Iechyd yr Amgylchedd, ar (01443) 744283.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o'r gymuned.

37 awr
Ty Elai
Williamstown
Tonypandy
CF48 1NY
5 Hydref 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.