Gweld swydd wag -- Gyrrwr/Gosodwr Nwyddau

Gofal Cymdeithasol - Oedolion
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Ymyrraeth Tymor Byr i Oedolion
Gradd 4
£18,933
Amser Llawn Parhaol

Y cwsmer yw canolbwynt holl waith busnes Vision Products.  Rydyn ni'n darparu offer yn y gymuned newydd ac sydd wedi'i adnewyddu i'r gymuned.

Ar hyn o bryd rydyn ni'n chwilio am Yrrwr/Gosodwr Nwyddau amser llawn i ymuno â'n Gwasanaeth Offer yn y Gymuned sy'n darparu gwasanaeth Dosbarthu/Casglu proffesiynol ac effeithlon.

Bydd angen i chi feddu ar drwydded yrru lawn y DU a bydd y Cyngor yn darparu cerbyd i chi ymgymryd â'ch dyletswyddau.

Bydd dyletswyddau'n cynnwys:

  • Sicrhau bod yr offer a'r wybodaeth gywir sy'n cael eu nodi ar y gwaith papur neu gwasanaeth y ddyfais law yn cael eu dosbarthu i'r cwsmer
  • Llwytho offer a nwyddau i gerbydau ac oddi arnynt mewn modd cywir a diogel
  • Dilyn cyfarwyddiadau a gosod offer yn ddiogel.
  • Gweithredu prosesau fel codio barrau yn gywir a chofnodi profion yn electronig gan ddefnyddio dyfais symudol neu ddyfais law
  • Cwblhau taflenni cofnodi cerbydau a dogfennau cerbydau a theithiau eraill yn gywir yn ôl y gofyn
  • Darparu lefel wych o wasanaeth i gwsmeriaid.

Cymryd rhan, lle bo angen ac ar sail rota, yn narpariaeth o wasanaeth torri i lawr ac atgyweirio y tu allan i oriau arferol

Am ragor o wybodaeth am y swydd, ffoniwch Phil Sims (Rheolwr Gwasanaeth Offer yn y Gymuned) neu Fay Richards (Rheolwr Logisteg) ar (01443) 229988.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.


Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Vision Prodcuts
Coed Cae Lane Industrial Estate
Pontyclun
CF72 9HG
12 Hydref 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.