Gweld swydd wag -- Swyddog Cynnal Systemau

TGCh a Thelegyfathrebu
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Trawsnewid
Gradd 8
£27,041
Amser llawn dros dro

Swyddog Cynnal System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru Dros Dro 

Rydyn ni'n gwahodd ceisiadau i ymuno â charfan Cymorth Systemau Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant ar secondiad / dros dro am gyfnod o flwyddyn.  Byddwch chi'n atebol i'r Rheolwr Cynnal Systemau, ac yn ymuno â charfan ddeinamig sy'n gyfrifol am gynnal a chadw System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) a'i datblygu.

Bydd y rôl yn canolbwyntio'n bennaf ar gynorthwyo staff Gofal Cymdeithasol wrth iddyn nhw ddefnyddio System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru.  Bydd hyn yn cynnwys gweithio ar y ddesg gymorth  systemau yn ôl yr angen, datrys ymholiadau haen 1, rhoi hyfforddiant trwy Microsoft Teams a chreu ffurflenni newydd. 

Rhaid bod gyda chi brofiad o gynnal hyfforddiant mewn sawl fformat a phrofiad helaeth o ddefnyddio Microsoft Office neu feddalwedd tebyg. Mae gwybodaeth gadarn o System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru yn ddymunol.

Yr oriau gwaith yw 37 awr yr wythnos ac, ar hyn o bryd, mae'r garfan yn gweithio gartref yn unol â threfniadau COVID-19 cyfredol y Cyngor (efallai bydd hyn yn newid).

Mae hon yn swydd dros dro am flwyddyn a rhaid i ymgeiswyr sy'n dymuno gwneud cais am secondiad gael cymeradwyaeth gan eu rheolwr llinell.

Mae modd i ymgeiswyr sydd â diddordeb yn y swydd yma gysylltu â Carol Ward (Rheolwr Cymorth Systemau) ar 07384 919337 i gael rhagor o wybodaeth neu drafodaeth anffurfiol.

 

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

 

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

 

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

 

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

 


Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymdeithas.

37 awr yr wythnos
Ty Elai
Dinas Isaf Industrial Estate
Williamstown
CF40 1NY
12 Hydref 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.