Gweld swydd wag -- Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar

Addysg - dim addysgu
Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant
Gwasanaethau Cynhwysiant
Soulbury
£46,705 - £50,541 ynghyd â 3 spa
Amser Llawn Parhaol

Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar

Soulbury 9 - 12 (+ 3 Pwynt SPA)

Yn unol â gofynion statudol Deddf ALNET 2018, bwriad yr ALl yw penodi gweithiwr proffesiynol rhagorol fydd yn cyfrannu at ddatblygiad strategol darpariaeth y blynyddoedd cynnar ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol ar draws Rhondda Cynon Taf.

Mae'r rôl yn cyfuno datblygiad strategol, arweinyddiaeth a darpariaeth weithredol. Bydd deiliad y swydd yn rhan o wasanaeth amlddisgyblaethol ac yn gwneud cyfraniad pwysig at yr ethos o wneud gwaith cadarnhaol gyda gweithwyr proffesiynol eraill yn y Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant. Mae'r rhain yn cynnwys y Gwasanaeth Seicoleg Addysg, Gwasanaeth Cynnal Dysgu, y garfan Plant sy'n Derbyn Gofal a'r Gwasanaeth Gweinyddu Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Mae'r tasgau allweddol yn cynnwys:

  • Cynnig canllawiau, cyngor a chymorth i sector y blynyddoedd cynnar i sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel
  • Datblygu polisi'r awdurdod ar ddarpariaeth ADY ar gyfer plant dan yr oedran ysgol gorfodol sydd ddim eto mewn ysgol sy'n cael ei chynnal
  • Hyfforddiant i leoliadau blynyddoedd cynnar ar faterion sy'n ymwneud ag ADY, gan ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol eraill lle y bo'n briodol a chynnig mewnbwn arbenigol
  • Arferion cydweithio effeithiol gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, addysg, y trydydd sector a gofal cymdeithasol ynghylch darpariaeth ADY.

Bydd gwneud gwaith partneriaeth effeithiol â chydweithwyr Gwella Ysgolion hefyd yn rhan hanfodol o'r swydd wrth roi rôl cymorth a chefnogi'r Awdurdod Lleol ar waith er mwyn goresgyn rhwystrau rhag dysgu a chyflawni. Mae'n ofynnol i ddeiliad y swydd deimlo'n frwdfrydig dros godi safonau a gwella deilliannau i ddysgwyr y blynyddoedd cynnar. Yn ogystal â hynny, bydd raid iddo feithrin cydberthnasau gwaith gwych â phenaethiaid, rhieni/cynhalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn athro cymwys sydd â phrofiad arwain strategol. Mae cefndir o weithio gyda phlant y blynyddoedd cynnar sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a'u teuluoedd yn hanfodol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd weithredu fel ffynhonnell arbenigedd i ddarparwyr y blynyddoedd cynnar i alluogi'r ALl i gyflawni ei ddyletswyddau statudol mewn perthynas â phlant ag ADY sydd o dan yr oedran gorfodol i fod yn yr ysgol.

Prif leoliad y swydd yw Tŷ Trevithick yn Abercynon, sy'n hawdd ei gyrraedd o Gaerdydd.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth, ffoniwch Ceri Jones, Pennaeth Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant, ar 01443 744344.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.


Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymdeithas.

37
Ty Trevithick
Abercynon
Mountain Ash
CF45 4UQ
15 Hydref 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.