Gweld swydd wag -- Ymgynghorydd Twristiaeth

Celfyddydau / Achlysuron / Twristiaeth
Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen
Ffyniant a Datblygu
Gradd 11
£34,788
Amser Llawn Parhaol

Dyma gyfle cyffrous i unigolyn brwdfrydig ymuno â'r garfan Twristiaeth fel Ymgynghorydd Twristiaeth.


Mae'r Gwasanaeth Twristiaeth yn gyfrifol am ddatblygu Rhondda Cynon Taf i fod yn gyrchfan i ymwelwyr.


Gan fod yn atebol yn uniongyrchol i'r Rheolwr Strategol, bydd y swydd allweddol yma'n cefnogi gweithio gyda phartneriaethau allweddol i ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau twristiaeth ac i hyrwyddo'r rhain i'r marchnadoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, nid yn unig i gynyddu niferoedd ymwelwyr domestig a rhyngwladol, ond hefyd i wella sut mae pobl yn gweld Rhondda Cynon Taf o ran bod yn gyrchfan i ymweld â hi.


Gyda thwristiaeth ddomestig yn ei hanterth, mae'r arlwy treftadaeth ddiwylliannol sylweddol sy'n cael ei gynnig gan atyniadau fel Taith Pyllau Glo Cymru, a'r farchnad antur awyr agored gynyddol gyda dyfodiad agos Zip World Tower, yn gosod Rhondda Cynon Taf mewn sefyllfa dda i ddatblygu'n gyrchfan gwyliau heb ei hail yn y DU. Mae'n gyfnod hynod o gyffrous i ymuno â ni.

Mae'n hanfodol bod gan yr unigolyn ddealltwriaeth o Dwristiaeth yng Nghymru, ac ardal y De Ddwyrain. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos dealltwriaeth o waith Rheoli Cyrchfannau, ei weithgareddau a'i bartneriaid a'i gyd-destun polisi.


Dylai bod yr ymgeisydd llwyddiannus wedi derbyn addysg hyd at lefel gradd ym maes Twristiaeth a / neu arddangos profiad perthnasol ar lefel uwch / strategol.  Mae angen cymhwyster ôl-raddedig mewn pwnc perthnasol a / neu brofiad cyfatebol hefyd.


I gael rhagor o wybodaeth neu drafodaeth anffurfiol am y swydd yma, ffoniwch Ian Christopher ar (01443) 424017.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymdeithas.

37
The Pavilions
Cambrian Park
Clydach Vale
CF40 2XX
12 Hydref 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.