Gweld swydd wag -- Pennaeth y Gwasanaeth Seicoleg Addysg

Rheoli
Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant
Gwasanaethau Cynhwysiant
Uwch / Blaen Seicolegwyr Addysg
£55,677-£59,250 + 3 phwynt SPA
Amser Llawn Parhaol

Rhondda Cynon Taf

Gwasanaeth Seicoleg Addysg

Pennaeth y Gwasanaeth Seicoleg Addysg  

Graddfa Soulbury B Pwynt 7-10 (+ 3 SPAs)

Rydyn ni eisiau penodi gweithiwr proffesiynol rhagorol i gyfrannu at ein Gwasanaeth Seicoleg Addysg ymroddedig ac uchel ei fri. Bydd y swydd yn cynnwys rhoi arweiniad creadigol a datblygiadau strategol arloesol yng Ngwasanaeth Seicoleg Addysg Rhondda Cynon Taf ac yn unol â'r CLG ym Merthyr Tudful. Bydd hyn yn ein galluogi ni i ddarparu gwasanaethau seicolegol rhagorol i'n dysgwyr, eu teuluoedd ac asiantaethau allanol.

Bydd y rôl yn cyfuno'r gwaith strategol o ddatblygu, arwain, rheoli a gweithredu ymarferol. Bydd deiliad y swydd yn rhan o garfan amlddisgyblaethol ac yn gwneud cyfraniad pwysig at yr ethos o wneud gwaith cadarnhaol gyda gweithwyr proffesiynol eraill yn y Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant. Mae'r rhain yn cynnwys y Gwasanaeth Cynnal Dysgu, y garfan Plant sy'n Derbyn Gofal a'r Gwasanaeth Gweinyddu Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd gwneud gwaith partneriaeth effeithiol â chydweithwyr Gwella Ysgolion hefyd yn rhan hanfodol o'r swydd. Bydd deiliad y swydd yn rhoi rôl cymorth a chefnogi'r Awdurdod Lleol ar waith er mwyn goresgyn rhwystrau rhag dysgu a chyflawni. Mae'n ofynnol i ddeiliad y swydd deimlo'n frwdfrydig dros godi safonau a gwella deilliannau i blant a phobl ifainc. Yn ogystal â hynny, bydd raid iddo feithrin cydberthnasau gwaith gwych â phenaethiaid, rhieni/cynhalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill. Bydd profiad o arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol ar lefel uwch yn hanfodol yn ogystal â hanes o sicrhau newid cadarnhaol.

Prif leoliad y swydd yw Tŷ Trevithick yn Abercynon, sy'n hawdd ei gyrraedd o Gaerdydd.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth, ffoniwch Ceri Jones, Pennaeth Gweithredol y Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant, ar 01443 744344.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.


Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymdeithas.

37
Ty Trevithick
Abercynon
Mountain Ash
CF45 4AF
29 Hydref 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.