Gweld swydd wag -- Gweithiwr Gofal Cymdeithasol Achlysurol – Gwasanaethau Gofal Seibiant

Gofal Cymdeithasol - Oedolion
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Llety
Gradd 5
£9.94 yr awr
Gweithwyr Dros Dro

Ydych chi'n chwilio am her? Ydych chi'n mwynhau rhoi cymorth i bobl? Rydyn ni am benodi unigolion brwdfrydig a chryf eu cymhelliad i ymuno â'n carfan o weithwyr gofal cymdeithasol achlysurol er mwyn bod yn gefn i unigolion sydd ag anableddau dysgu i feithrin medrau ar gyfer byw bywydau annibynnol.

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys Gwasanaethau 'Byw gyda Chymorth' a 'Gofal Seibiant' ledled Rhondda Cynon Taf, felly bydd angen i chi weithio mewn modd hyblyg ac arloesol er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr y gwasanaeth a chyfrannu at ddatblygiad y Gwasanaeth Gofal Seibiant.

Byddai profiad o fod yn gefn i bobl ag anableddau dysgu yn ddymunol ond nid yn hanfodol, gan y bydd disgwyl i'r ymgeiswyr llwyddiannus ddod â'u sgiliau a'u profiadau nhw'u hunain i'r rôl. Byddwch chi'n dilyn rhaglen ymsefydlu ac yn ymgymryd â hyfforddiant parhaus, ynghyd â bod yn destun goruchwyliaeth barhaus er mwyn gweithio mewn modd effeithiol. Bydd angen cymhwyster Fframwaith Cymwysterau a Chredydau Lefel 2 arnoch chi, neu ddangos ymrwymiad i ennill y cymhwyster hwnnw.

Oherwydd bod y gwasanaethau ar gael 365 diwrnod y flwyddyn, bydd gofyn i chi weithio ystod o sifftiau, gan gynnwys nosweithiau, dros nos (ar ddihun), penwythnosau a gwyliau banc gan gynnwys y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Bydd hefyd gofyn i chi wneud dyletswyddau cysgu dros nos, a byddwch chi'n derbyn taliadau ychwanegol am y rhain.

Am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol am y swydd, ffoniwch Debra Jones ar (01443) 479907.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor. 

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad ydy unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses recriwtio a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddynt hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch yn clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Yn ôl y galw
Respite Centres
Across Rhondda Cynon Taf
RCT
CF41 7NW
10 Ebrill 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.