Gweld swydd wag -- Uwch Ymarferwyr - Timau ACP Dwyrain a Gorllewin

Gwaith Cymdeithasol
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 12
£ 38,890 ynghyd ag ychwanegiad marchnad o £ 2,000 y flwyddyn, a thaliad arall o £ 2,000 y flwyddyn i gydnabod gwaith a wneir yn y tîm rheng flaen hwn. Telir y taliadau hyn pro rata yn fisol
Amser Llawn Parhaol

Mae Rhondda Cynon Taf yn falch o gynnig cyfle i Uwch Ymarferwyr weithio yn rhan o Garfanau Ymyrraeth Ddwys swyddfa'r Dwyrain a swyddfa'r Gorllewin.

Mae'r Gwasanaeth Ymyrraeth Ddwys wedi'i rannu'n ddwy swyddfa, sef swyddfa'r Dwyrain a swyddfa'r Gorllewin. Mae swyddfa'r Dwyrain yn Nhŷ Trevithick, Abercynon, ac mae swyddfa'r Gorllewin yn Nhonypandy, Cwm Rhondda. Mae tair carfan Ymyrraeth Ddwys sy'n rhoi pwyslais ar feithrin cysylltiadau tymor hir â phlant, teuluoedd a phobl ifainc.

O'ch penodi'n Uwch Ymarferydd, byddwch chi'n rheoli nifer benodol o achosion a gweithio mewn amgylchedd carfan ymestynnol, ond un sy'n rhoi cymorth a boddhad. Bydd disgwyl i chi fentora eraill pan fo angen hynny ar ymarferwyr newydd gymhwyso ac ymrwymo i gyflawni datblygiad personol. Yn y rôl yma bydd disgwyl i chi ddirprwyo dros reolwr eich carfan yn achlysurol. Byddwch chi hefyd yn cael sesiynau goruchwylio anffurfiol a ffurfiol rheolaidd a bydd nifer o gyfleoedd hyfforddi priodol ar gael.  

Rhaid i chi ddeall goblygiadau Deddf Plant a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a deddfwriaeth berthnasol arall i ymarfer yn ddigonol. Byddwch chi'n ymroi i ymarfer sydd heb fod yn ormesol, a byddwch chi'n dod â sgiliau asesu, cyfathrebu a chynllunio cadarn i'r swydd. Mae gan bob un o'n hymarferwyr y cyfle i ddylanwadu ar ein gwaith wrth iddo ddatblygu. Maen nhw'n cael cymorth Carfan Reoli gadarn a phrofiadol ar lefelau Strategol a Gweithredol.

Rydyn ni’n cydnabod bod maes gwaith cymdeithasol yn un heriol yn broffesiynol ac yn bersonol a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gennym ni ganolfan Addysg a Datblygu pwrpasol arbennig sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyri gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Mae gofyn eich bod chi'n meddu ar gymhwyster gwaith cymdeithasol cydnabyddedig, eich bod chi ar gofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru a bod gyda chi 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso ym maes gwaith cymdeithasol a hanes da o waith cymdeithasol gyda phlant, pobl ifainc a'u teuluoedd.

Am ragor o wybodaeth ac am sgwrs anffurfiol, ffoniwch Julie Evans, Rheolwr y Garfan ar (01443) 424548 neu Ceri O'Dare, Rheolwr y Garfan ar (01443) 424543.

Sylwer, er bod dyddiad cau wedi'i nodi, hysbyseb barhaus yw hon a bydd ymgeiswyr addas yn cael eu gwahodd i gyfweliad yn rheolaidd.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Rhondda Principal Office / Ty Trevithick
Berw Road / Abercynon
Tonypandy / Mountain Ash
CF40 2HH / CF45 4UQ
16 Awst 2021
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.