Gweld swydd wag -- Gweithiwr Gofal Canolradd

Gofal Cymdeithasol - Oedolion
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Ymyrraeth Tymor Byr i Oedolion
Gradd 5
£9.94 yr awr
Rhan-amser Parhaol

Mae angen Gweithwyr Gofal Canolradd (contract 16 awr) i ymuno â'n carfan sy'n tyfu yn Rhondda Cynon Taf.

Byddwch chi’n rhoi cymorth er mwyn adsefydlu unigolion ac yn darparu gofal ymarferol. Bydd y cymorth hwnnw yn adlewyrchu dewisiadau unigol er mwyn gwella annibyniaeth ac ansawdd bywyd yr unigolyn.  A ninnau'n hwyluso Gwasanaeth Gofal Canolraddol yn y gymuned, rydyn ni’n cynnig cymorth a rhaglenni adsefydlu yng nghartref neu fan preswyl unigolyn.  Mae hyn yn galluogi unigolion i wneud y pethau sy'n bwysig iddyn nhw ac sy'n hollbwysig i'w hiechyd a'u lles.

Byddwch chi’n gweithio yn rhan o’n Carfan Cymorth Gartref (Gofal Gartref, Gofal Canolradd ac Adsefydlu) drwy gynorthwyo arbenigwyr i ofalu am bobl yn eu cartrefi eu hunain.  Mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu 365 diwrnod y flwyddyn ac mae oriau gwaith yn amrywio o 7.30am tan 10pm.

Rhaid eich bod chi'n ymrwymo i'r swydd, yn ddibynadwy ac yn awyddus i ddysgu sgiliau newydd. Rhaid meddu ar y gallu i weithio ar eich liwt eich hun. Rydyn ni'n chwilio am staff blaengar a fydd yn helpu i symud ein gwasanaeth ymlaen at y lefel nesaf.

Rhaid bod gyda chi'r modd i deithio'n annibynnol ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r swydd yma, ffoniwch Hayley Thorne neu Debra Hughes ar (01443) 444656.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeiswyr llwyddiannus.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol.  Felly, os dydych chi ddim wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb, ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

16 awr
Ty Elai
Williamstown
Tonypandy
CF40 1NY
15 Ionawr 2021
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.