Gweld swydd wag -- Gyrrwr Nwyddau/Gosodwr

Arall
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Ymyrraeth Tymor Byr i Oedolion
Gradd 4
9213
Rhan-amser Parhaol

Y cwsmer yw canolbwynt holl waith busnes Vision Products.  Rydyn ni'n darparu offer cymunedol newydd ac sydd wedi'i adnewyddu i'r gymuned.

Ar hyn o bryd rydyn ni'n chwilio am Yrrwr Nwyddau/Gosodwr rhan amser i ymuno â'n Gwasanaeth Offer Cymunedol sy'n darparu gwasanaeth Dosbarthu/Casglu proffesiynol ac effeithlon.

Bydd angen i chi feddu ar drwydded yrru lawn y DU a bydd y Cyngor yn darparu cerbyd i chi ymgymryd â'ch dyletswyddau.

Bydd dyletswyddau'n cynnwys:

  • Sicrhau bod yr offer a'r wybodaeth gywir sy'n cael eu nodi ar y gwaith papur neu'r ddyfais law yn cael eu dosbarthu i'r cwsmer
  • Llwytho offer a nwyddau i gerbydau ac oddi arnynt mewn modd cywir a diogel
  • Gosod a chyfarwyddo'r offer yn ddiogel
  • Gweithredu prosesau fel pennu codau bar yn gywir a chofnodi profion yn electronig gan ddefnyddio dyfais symudol neu ddyfais law
  • Cwblhau taflenni cofnodi cerbydau a dogfennau cerbydau a theithiau eraill yn gywir yn ôl y gofyn
  • Sicrhau darparu lefel arbennig o wasanaeth i gwsmeriaid

Cymryd rhan, lle bo angen ac ar sail rota, yn y ddarpariaeth o wasanaeth torri i lawr ac atgyweirio y tu allan i oriau arferol

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r rôl, e-bostiwch phillip.sims@rctcbc.gov.uk neu fay.richards@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 01443 229988.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.


Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol.  Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma.  Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

18.5
Vision Products
Unit 2 Green Park Industrial Estate
Pontyclun
CF72 9GP
21 Tachwedd 2019
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.