Gweld swydd wag -- Gweithiwr Cymorth Rhianta

Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifainc
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 6
£21,166
Amser Llawn Parhaol

Rydyn ni'n awyddus i benodi Gweithiwr Cymorth Rhianta brwdfrydig i fod yn rhan o gyflwyno ystod o raglenni cymorth rhianta (0-18 oed), gan gynnwys cymorth galw heibio, rhaglenni rhianta ar sail tystiolaeth a chymorth i deuluoedd yn eu cartrefi, a hynny ledled Rhondda Cynon Taf.

Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar Lefel 3 Plant a Phobl Ifainc mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (FfCCh) neu'r rhagflaenydd, NVQ Lefel 3 mewn Gofalu am Blant a Phobl Ifainc, neu fod yn barod i gyflawni'r FfCCh cyn pen 2 flynedd wedi cael aseswr.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Tracy Symon neu Lisa Lewis ar (01443) 281435.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Ty Trevithick
Abercynon
Mountain Ash
CF45 4UQ
2 Rhagfyr 2019
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.