Gweld swydd wag -- Gweithiwr Cymorth Chwarae – Achlysurol
Mae cyfle newydd a chyffrous wedi codi o fewn Carfan Datblygu Chwarae yr awdurdodau lleol.
Rydym yn chwilio am bobl frwdfrydig i ymuno â'n carfan chwarae i ddarparu cyfleoedd chwarae amrywiol, mentrus ac ystyrlon. Bydd y cyfleoedd chwarae hyn yn cael eu targedu at blant a phobl ifanc rhwng 5 a 14 oed ac yn cael eu darparu mewn ystod o leoliadau dan do ac awyr agored ar draws cymunedau lleol Rhondda Cynon Taf.
Gan ddefnyddio ystod o offer ac adnoddau chwarae bydd disgwyl i chi gynllunio a chreu amgylcheddau chwarae cyfoethog sy'n cefnogi ethos 'Chwarae Dewis Rhydd'.
Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.