Sut i alluogi cwcis yn Internet Explorer

Internet Explorer 6.0

Pan fydd Internet Explorer ar agor:

  • Ewch i ‘Tools’.
  • Yna, cliciwch ar ‘Internet options’.
  • Bydd ffenestr newydd yn ymddangos



  • Cliciwch ar y tab ‘Privacy’.
  • Cliciwch ar y botwm ‘Advanced’.



  • Ticiwch ‘Override automatic cookie handling’.
  • Dewiswch ‘Accept’ dan ‘First party Cookies’ a ‘Third party Cookies’.
  • Hefyd, ticiwch ‘Always allow session cookies’.




  • Cliciwch ar ‘OK’ er mwyn gadael ‘Internet Options’ – caewch bob ffenestr IE6 sydd ar agor, ac ailagor Internet Explorer.


Fersiynau hŷn o Internet Explorer

Cliciwch ar ‘Tools’ yn y bar offer ar frig y porwr.

Yn y gwymplen, cliciwch ar ‘Internet options’.



Cliciwch ar y tab ‘Security’.



Cliciwch ar y botwm ‘Custom Level’.

Sgroliwch i lawr i'r adran ‘Cookies’.



Gwnewch yn siŵr bod ‘enable’ wedi'i ddewis dan y ddau.

Mae eisiau i chi alluogi cwcis sy'n cael eu storio ar eich cyfrifiadur a galluogi cwcis sesiynau (sydd ddim yn cael eu storio).