Gweld swydd wag -- Uwch Therapydd Galwedigaethol

Gofal Cymdeithasol - Oedolion
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Ymyrraeth Tymor Byr i Oedolion
Gradd 12
£37,849 pro rata
Amser Llawn Parhaol

Dyma groesawu ceisiadau am Uwch Therapydd Galwedigaethol cymwysedig (Partneriaeth Cyfarpar Cymunedol).

Gan weithio gyda chwmni Vision Products a Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol Integredig RhCT, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr, byddwch chi'n chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei gynnal yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon. Bydd disgwyl i chi ddarparu arbedion osgoi talu costau ar gyfer cyfarpar trwy adolygu stoc, archwilio i archebion a gweithio gyda'r gwasanaeth Caffael i sicrhau gwerth am arian gan gyflenwyr.

Mae cefnogi a chyfrannu at y Bartneriaeth ehangach yn hanfodol a bydd disgwyl i chi fynychu cyfarfodydd, adolygu arferion gwaith a datblygu cynlluniau gwaith ystyrlon.

Byddwch chi'n gweithio ochr yn ochr â'r Technegydd Therapi Galwedigaethol i ddarparu cymorth ar draws gwasanaethau cyfarpar i blant ac i oedolion i sicrhau bod gwasanaeth di-dor yn cael ei gynnal.

Rydyn ni'n chwilio am unigolyn sy'n flaengar ac sy'n gallu gweithio mewn lleoliad amlddisgyblaethol. Byddai profiad a gwybodaeth am y Bartneriaeth Cyfarpar Cymunedol a chwmni Vision Products yn werthfawr. Dyma gyfle cyffrous i ddarparu deilliannau cadarnhaol ar gyfer y Bartneriaeth Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol.

Os oes gyda chi ddiddordeb mewn dysgu rhagor am y swydd yma, ffoniwch Nicola Williams, Rheolwr y Gwasanaeth, ar (01443) 229988.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

18.5
Vision Products
CoedCae Lane
Pontyclun
CF72 9HG
12 Mawrth 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.