Gweld swydd wag -- Gweithiwr Cymdeithasol - Gofal a Chymorth (Dwyrain a Gorllewin)

Gwaith Cymdeithasol
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion
Gradd 11
£35,745 ynghyd ag ychwanegiad marchnad sy'n daladwy ar ôl y flwyddyn gyntaf yn ymarferol. Bydd £ 1,000 y flwyddyn yn daladwy ar gyfer blwyddyn 2, ac yna £ 1,000 y flwyddyn yn ychwanegol ar gyfer blwyddyn 3. Telir y taliad hwn pro rata yn fisol.
Amser Llawn Parhaol

GWEITHIWR CYMDEITHASOL – GOFAL A CHYMORTH 

Rydyn ni'n cynnig cyfle cyffrous i unigolion sy'n frwd dros weithio gydag oedolion dros 18 oed, a allai fod yn dioddef o salwch parhaol, anabledd corfforol, anabledd dysgu neu gyflwr iechyd meddwl. Mae gan ein Timau Gofal a Chefnogaeth swyddi amser llawn ar gael ar draws Rhondda Cynon Taf.

O'ch penodi, bydd gyda chi sgiliau llafar ac ysgrifenedig da, a gwybodaeth sylfaenol am gyfrifiaduron. Bydd angen i chi fod yn drefnus, a bydd angen ichi allu'ch cymell eich hun a blaenoriaethu llwyth gwaith. Yn ogystal â hynny, bydd angen i chi fod yn greadigol a chael cred gadarn mewn rhoi annibyniaeth i oedolion.

Bydd y gwaith yn cynnwys camau ymyrryd gweithredol ar achosion cymhleth. Bydd raid gweithio gydag unigolion a theuluoedd yn ystod cyfnod o newid. O ran y gwaith, mae pwyslais ar weithio gydag asiantaethau, a byddwch chi'n gweithio'n agos gyda chydweithwyr o feysydd proffesiynol eraill, megis iechyd, yr heddlu a thai. Bydd disgwyl i chi ddeall a glynu at bolisïau diogelu a Deddf Galluedd Meddyliol 2005. Bydd dealltwriaeth o faterion Gofal Iechyd Parhaus a Chynllunio Gofal a Thriniaeth o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 o fantais. Rydyn ni'n dilyn model ataliol sy'n seiliedig ar gryfderau, o dan egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.

Carfanau cyffredinol yw'r rhain, ond bydd cyfle i ddatblygu meysydd o arbenigedd yn rhan o'r garfan. Mae cyfleoedd i ddatblygu arferion sy'n seiliedig ar ymchwil yn cael eu hannog ac mae gan y garfan hanes hir o gefnogi myfyrwyr gwaith cymdeithasol. Caiff datblygiad proffesiynol ei annog a'i ddisgwyl. Mae gan y Cyngor adran hyfforddiant ragorol sy'n cynnig cyfleoedd amrywiol i gymryd rhan mewn hyfforddiant achrededig sy'n berthnasol i'r swydd. Rydyn ni'n cynnig goruchwyliaeth broffesiynol yn rheolaidd bob chwe wythnos, ac yn ogystal â hynny, bydd cyfle gyda chi i ddod yn rhan o waith goruchwylio cyfoedion mewn grŵp. Mae ein hamgylchedd gwaith yn gefnogol iawn. Mae Rhondda Cynon Taf hefyd yn cynnig cyfle i gynnal cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith drwy ei system budd-daliadau staff.

Bydd gyda chi gymhwyster cydnabyddedig mewn Gwaith Cymdeithasol a byddwch chi wedi cofrestru fel 'Gweithiwr Cymdeithasol' gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn dilyn cael eich penodi.

Os ydych chi eisiau cael sgwrs anffurfiol ynglŷn â'r swydd, ffoniwch Julie Parry, Rheolwr Tîm ar (01443) 444596 neu e-bostiwch Julie.A.Parry@rctcbc.gov.uk neu Julie Lineham, Rheolwr Tîm ar (01685) 887830 neu e-bostiwch Julie.Lineham@rctcbc.gov.uk.

Sylwer, er bod dyddiad cau wedi'i nodi, hysbyseb barhaus yw hon a bydd ymgeiswyr addas yn cael eu gwahodd i gyfweliad yn rheolaidd.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n drylwyr i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb, ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Across Rhondda Cynon Taf
.
.
CF44 8HU / CF40 1NY
15 Ebrill 2021
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.