Gweld swydd wag -- Goruchwyliwr Aildrefnu Apwyntiadau Brechu (Dros Dro)

Gofal i Gwsmeriaid
Prif Weithredwr
Gwasanaethau Cyllid a Digidol
Gradd 8
£27,041
Amser llawn dros dro

Mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, mae swyddi dros dro ar gael yng Ngwasanaeth Gofal i Gwsmeriaid y Cyngor. Ar gyfer y swyddi pwysig yma, bydd gofyn am weithiwyr sy’n canolbwyntio ar gael canlyniadau da ac sydd wedi ymroi’n llwyr i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid o’r safon orau sy’n hawdd i’r cyhoedd ei ddefnyddio.

Byddwch chi'n gyfrifol am oruchwylio'r gwasanaeth sy'n bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cwsmeriaid sy'n dymuno aildrefnu apwyntiadau brechu Covid-19 a drefnwyd ymlaen llaw

Rhaid bod gyda chi sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn enwedig technegau ffôn.  Rhaid eich bod chi'n gallu defnyddio systemau TG yn effeithiol. Mae profiad o weithio'n rhan o garfan ac ym maes Canolfan Alwadau hefyd yn ddymunol.

Byddwch chi'n unigolyn cadarnhaol, gydag agwedd benderfynol â’r awydd i ddarparu gwasanaeth arbennig ar gyfer cwsmeriaid.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch  GwasanaethauiGwsmeriaid@rctcbc.gov.uk.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.

37
Ty Elai
Dinas Isaf East
Williamstown
CF40 1NY
1 Rhagfyr 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.