Gweld swydd wag -- Ymgynghorydd Aildrefnu Apwyntiadau Brechu Dros Dro

Gweinyddol a chlerigol
Prif Weithredwr
Gwasanaethau Cyllid a Digidol
Gradd 5
£19,698
Amser llawn dros dro

Mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, mae swyddi dros dro ar gael yng Ngwasanaeth Gofal i Gwsmeriaid y Cyngor. Ar gyfer y swyddi pwysig yma, bydd gofyn am weithwyr sy’n canolbwyntio ar gael canlyniadau da ac sydd wedi ymroi’n llwyr i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid o’r safon orau sy’n hawdd i’r cyhoedd ei ddefnyddio.

Chi fydd y cyswllt cyntaf i gwsmeriaid sy'n dymuno aildrefnu apwyntiad brechu Covid-19 a drefnwyd ymlaen llaw.

Rhaid bod gyda chi sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn enwedig technegau ffôn. Rhaid eich bod chi'n gallu defnyddio systemau TG yn effeithiol. Mae profiad o weithio mewn carfan ac mewn amgylchedd Canolfan Alwadau hefyd yn ddymunol.

Byddwch chi'n unigolyn cadarnhaol, gydag agwedd benderfynol ac awydd i ddarparu gwasanaeth arbennig i gwsmeriaid.

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch gwasanaethauigwsmeriaid@rctcbc.gov.uk.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.

37
Ty Elai
Dinas Isaf East
Williamstown
CF40 1NY
11 Ionawr 2021
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.