Gweld swydd wag -- Ymarferydd Gofal Plant - Preswyl

Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifainc
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 7
£24,491 pro rata
Rhan-amser Parhaol

Mae cyfle wedi codi i benodi Ymarferydd Gofal Plant Preswyl rhan amser a fydd yn gweithio 18.5 awr yr wythnos yng Nghartref Bryndâr i Blant yn ardal Cwmdâr, Aberdâr.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â charfan o 20 aelod o staff sy'n darparu gofal hirdymor i bump o blant sydd ag anghenion cymhleth.

Bydd yr ymgeisydd yn cyflawni'r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan cyn gweithio tuag at Gymhwyster QCF Lefel 3 mewn Gofal Cymdeithasol.

Mae'r cartref yn cynnig gofal hir dymor i bump o blant rhwng 8 a 18 oed sydd ddim yn gallu byw gyda'u teuluoedd am wahanol resymau.

Mae'r cartref yn gweithredu rota pedair wythnos sy'n cynnwys dau batrwm sifft - 7 am/3pm a 2.30pm/10.30pm. O bryd i'w gilydd, bydd angen ymgymryd â dyletswyddau fydd yn golygu bod angen i chi aros ar y safle dros nos.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd ag ystod o ddyletswyddau i gynorthwyo plant a phobl ifainc i sicrhau deilliannau cadarnhaol. Bydd hyn yn gofyn am ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ogystal â dangos lefel uchel o ymroddiad i'r plant sy'n byw yn y cartref.

Am ragor o wybodaeth, mynnwch olwg ar y swydd ddisgrifiad neu ffoniwch Carol Booth, Stephen Macey neu Ryan Phillips ar 01685879577.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.


 

18.5
Bryndar Children's Home
Cherry Drive
Cwmdare
CF44 8RJ
15 Ionawr 2021
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.