Gweld swydd wag -- Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu

Addysg - dim addysgu
Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant
Gwasanaethau Cynhwysiant
Gradd 6
£21,748 pro rata (ynghyd â lwfans dosbarth arbennig)
Rhan-amser Parhaol - tymor ysgol yn unig

Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu (Ariannwyd yn Ganolog)
Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 2 ar gyfer disgyblion ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig

32.5 awr yr wythnos, tymor ysgol yn unig

Rydyn ni'n dymuno cyflogi cynorthwy-ydd cynnal dysgu cyn gynted ag sy'n bosibl ar gyfer y ddarpariaeth uchod. Bydd y swydd yn cynnwys cynorthwyo'r athro / athrawes dosbarth i weithredu rhaglenni unigol, a chefnogi'r disgyblion yn yr ysgol ac mewn dosbarthiadau prif ffrwd. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n rhan o garfan a dangos parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant arbenigol addas mewn perthynas ag anghenion addysgol arbennig

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Rachel Williams, Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant, Addysg a Dysgu Gydol Oes yn Nhŷ Trevithick ar (01443) 744333.

Mae diogelu plant ac oedolion sy'n agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o weithwyr Cyngor RhCT.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.


Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.

32.5 awr yr wythnos - tymor yr ysgol yn unig
Williamstown Primary School
Penrhiwfer Community Campus
Dinas Isaf West
CF40 1AG
30 Tachwedd 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.