Gweld swydd wag -- Swyddog Graddedig Dros Dro – Amrywiaeth a Chynhwysiant

Cyfleoedd i Raddedigion
Prif Weithredwr
Adnoddau Dynol
Gradd 8
£27,041
Cyfnod Penodol

Tymor Penodol - 2 flynedd

Rhaglen i Raddedigion Cyngor RhCT 2020

Mae swydd i raddedigion gyda Chyngor RhCT - Cyngor sydd wedi ennill gwobrau - yn gam yn eich taith i gyfleoedd gyrfa rhagorol.

Dyma gyfnod cyffrous a llawn her ym myd Llywodraeth Leol, wrth iddo barhau i ddarparu gwasanaethau o safon uchel ochr yn ochr â gwerth am arian. Fe fydd rôl Llywodraeth Leol o ran llywio dyfodol ein cymunedau lleol yn bwysicach nag erioed.

Mae gweithio ym myd Llywodraeth Leol yn un o'r heriau caletaf ac ysgogol i'r ymennydd wrth inni gynnal gwasanaethau sy'n effeithio ar filoedd o fywydau mewn amryw ffyrdd.

Mae'r Cyngor unwaith eto yn chwilio am weithwyr yn rhan o'i Raglen i Raddedigion sy'n cynnig amgylchfyd bywiog ar gyfer meithrin medrau newydd, trosglwyddadwy, yn ogystal â chyfleoedd i gwrdd â phobl o amryfal gefndiroedd ac i feithrin gyrfa yn Rhondda Cynon Taf.

O gymryd rhan y rhaglen yma, byddwch chi'n cael hyfforddiant a chymorth wrth i chi weithio, cyflog cystadleuol, yr opsiwn i ymuno â Chynllun Pensiwn y Cyngor, 25 diwrnod o wyliau blynyddol (mewn blwyddyn lawn) a manteision megis ffioedd gostyngol ar gyfer aelodaeth â Chanolfannau Hamdden yn Rhondda Cynon Taf sy'n cael eu rhedeg gan y Cyngor a Chynllun Buddion i Staff.

Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn ddiffiniol wrth gydnabod anghydraddoldebau o ran hil yn y gymdeithas. Rydyn ni wedi gwrando ar adborth ein gweithwyr ac yn cydnabod bod angen i ni wneud mwy i wella cydraddoldeb hiliol o fewn ein gweithlu a'n cymunedau.

O'ch penodi yn Swyddog Graddedig yn y Garfan Amrywiaeth a Chynhwysiant byddwch chi'n cael cyfle i weithio i ddatblygu a gweithredu cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol. Bydd y swydd yma'n un gwerthchweil ond yn un heriol hefyd. Rydyn ni am benodi unigolion sy'n gwerthfawrogi cynhwysiant a chydraddoldeb i bob grŵp o bobl. Rydyn ni'n croesawu ceisiadau gan bob grŵp lleiafrifol sydd wir yn dymuno sbarduno newid ym meysydd cydraddoldeb, amrywiaeth a thegwch yn y gweithle ac yn ein cymunedau.

Byddwn ni'n cynnig y canlynol i chi fel swyddog graddedig; ymrwymiad gan ein huwch arweinwyr, cefnogaeth gan ein rhwydwaith staff 'Spotolau' a chefnogaeth mentor unigol. Byddwch chi hefyd yn rhan o garfan gefnogol.

Os hoffech chi glywed rhagor am y swydd yma, cysylltwch â Melanie Warburton, Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant ar 07384910492.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.

37
Ty Elai
Williamstown
Tonypandy
CF40 1NY
21 Rhagfyr 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.