Gweld swydd wag -- Cynorthwy-ydd Gweinyddol (Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg)

Gweinyddol a chlerigol
Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant
Gwasanaethau Cynhwysiant
Gradd 6
£21,748
Amser llawn dros dro

Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant  

Dyddiad Cychwyn:  Cyn gynted â phosibl

Mae hon yn swydd dros dro tan 31 Mawrth 2021

Cyfle secondiad

Mae'r Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant yn chwilio am unigolyn ymroddgar i weithio fel Cynorthwy-ydd Gweinyddol yn rhan o'r Garfan Weinyddu.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus wneud y canlynol:

  • Rhoi cymorth gweinyddol effeithiol i gynorthwyo â gwaith gweithredu'r diwygiadau sydd ar ddod ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a'r ddeddfwriaeth newydd.
  • Rhoi cymorth i gasglu data i'w ddefnyddio ar gyfer adroddiadau gwasanaeth.

Sicrhewch eich bod chi wedi cael caniatâd gan eich rheolwr llinell i wneud cais am secondiad yma cyn ymgeisio am y swydd.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd hon, mae croeso i chi ffonio Lisa Carter, Cydlynydd Materion Cynhwysiant, neu Helen Williams, Uwch Swyddog Gweinyddu, ar (01443) 744344.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymuned. 

37
Ty Trevithick
Abercynon
Mountain Ash
CF45 4UQ
10 Rhagfyr 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.