Gweld swydd wag -- Cynorthwy-ydd Busnes Datblygu Gofal Plant

Addysg - dim addysgu
Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant
Ysgolion yr 21ain Ganrif
Gradd 7
£24,491
Amser llawn dros dro

Rydyn ni'n chwilio am Gynorthwy-ydd Datblygu Busnes Gofal Plant i ymuno â'n Carfan Gofal Plant ni. Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at ddyletswydd statudol y Cyngor o ran sicrhau bod digon o ofal plant ar gael i rieni sy'n gweithio, yn derbyn hyfforddiant neu yn y byd addysg.

O'ch penodi, byddwch chi'n cynnig cyngor ac arweiniad i leoliadau ar gofrestru, polisïau a gweithdrefnau AGC a chynllunio busnes. Byddwch chi'n cefnogi'r broses gynllunio a darparu achlysuron hyfforddi, DPP ac ymrwymiadau ar gyfer y sector gofal plant yn RhCT, trwy achlysuron wyneb yn wyneb ac ar lwyfannau ar-lein. Byddwch chi'n cyfrannu at ddatblygiad Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant y Cyngor ac yn chwarae rôl allweddol wrth hyrwyddo Cynnig Gofal Plant Cymru, gan gynnwys cefnogi darparwyr gofal plant i gyflawni'r cynllun.

Bydd gyda chi wybodaeth a phrofiad helaeth o'r sector gofal plant a rheoliadau'r AGC, ynghyd â gwybodaeth a chyngor mewn perthynas â chynnig cyngor a chefnogaeth i sefydliadau gofal plant i wella eu harferion busnes. Bydd gennych chi brofiad o weithio mewn partneriaeth ag ystod eang o randdeiliaid, megis sefydliadau cysylltiedig â gofal plant, darparwyr gofal plant, rhieni a phersonél yr Awdurdod Lleol.

Byddwch chi'n llawn cymhelliant ac yn rhagweithiol ac yn gallu gweithio ar eich liwt eich hun. Byddwch chi'n gallu blaenoriaethu'ch llwyth gwaith i ateb gofynion a therfynau amser newidiol.

Byddwch chi'n gweithio 35 awr yr wythnos yn unol â chynllun oriau hyblyg y Cyngor.  Mae'r swydd yn swyddfeydd Tŷ Trevithick, Abercynon ond oherwydd y cyfyngiadau cyfredol mae staff y cyngor yn gweithio gartref yn bennaf ar hyn o bryd. Bydd hyn yn cael ei adolygu yn ôl yr angen. Mae'r swydd wedi'i hariannu'n allanol a bydd yn swydd rhan amser fydd yn para tan 30 Mawrth 2021 yn yr achos gyntaf, gyda'r posibilrwydd o'i hymestyn ar ôl y dyddiad yma.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Sian Wood ar 07393 759217.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.

35 awr
Ty Trevithick
Home Working
Home Working
CF45 4UQ
15 Rhagfyr 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.