Gweld swydd wag -- Cydlynydd Rhyddhau Cleifion – Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, mewn partneriaeth â CBS Merthyr Tudful a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, yn chwilio am Gydlynydd Rhyddhau Cleifion - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd. Rydyn ni'n chwilio am unigolyn i fod yn bwynt cyswllt â sefydliadau gofal sylfaenol, gofal eilaidd, gofal cymdeithasol, gofal yn y gymuned a'r trydydd sector.
Bydd y rôl yn cynnig pwynt cyswllt rhwng y gwasanaethau gofal cymdeithasol a'r ysbyty er mwyn hwyluso'r broses o ryddhau pobl o’r ysbyty o leoliadau acíwt a chymunedol. Bydd y swydd yn golygu bod un man cyswllt ar gyfer staff gofal iechyd mewn ysbytai i gynorthwyo gwasanaethau cydgysylltiedig er mwyn galluogi pobl i adael yr ysbyty mewn modd cyflym ac effeithlon.
Mae'r rôl yn hanfodol wrth ryddhau unigolion o'r Ysbyty, gan sicrhau trosglwyddiadau amserol a chydlynol i'r Gwasanaethau yn y Gymuned a Gofal Cymdeithasol.
Bydd gyda chi brofiad o weithio naill ai mewn lleoliad gofal iechyd neu mewn lleoliad gofal cymdeithasol. Yn ogystal â hynny bydd gyda chi wybodaeth gadarn am ddeddfau perthnasol ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, a'r materion sy'n effeithio ar ryddhau cleifion.
Bydd y swydd wedi'i lleoli yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, 28 awr yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r swydd yma, ffoniwch Leanne Traylor - Rheolwr Un Pwynt Mynediad ar (01443) 444646.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.