Gweld swydd wag -- Ymgynghorydd Canolfan Alwadau
Ymgynghorydd Canolfan Alwadau
1 x 27 awr
1 x 30 awr
3 x 37 awr
Mae’r Cyngor yn ymroi i wella darpariaeth gwasanaeth rheng flaen drwy’r amser. Mae hyn yn adlewyrchu ein hawch am gynnal gwasanaeth mwy integredig, gofynion cynyddol o du’r cyhoedd, a’n hymroddiad i greu sefydliad mwy hygyrch gyda pherthynas fwyfwy positif â’r bobl leol.
Mae swyddi dros dro ar gael yn rhan o'r Gwasanaeth Gofal i Gwsmeriaid. Ar gyfer y swydd pwysig yma mewn swyddfa sy’n fan cyswllt cyntaf i’r cyhoedd, bydd gofyn am weithwyr sy’n canolbwyntio ar gael canlyniadau da ac sydd wedi ymroi’n llwyr i ddarparu gwasanaeth o’r safon orau sy’n hawdd i’r cyhoedd ei ddefnyddio.
Chi fydd y cyswllt cyntaf i gwsmeriaid sy’n cysylltu â Chanolfan Alwadau y Cyngor, gan roi arweiniad a chyngor iddyn nhw a chymryd ceisiadau am wasanaethau.
Rhaid bod gyda chi sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn enwedig technegau ffôn. Rhaid eich bod chi'n gallu defnyddio systemau TG yn effeithiol. Mae profiad o weithio'n rhan o garfan ac mewn amgylchedd Canolfan Alwadau hefyd yn ofynnol.
Byddwch chi'n unigolyn cadarnhaol, gydag agwedd benderfynol ac awydd i ddarparu gwasanaeth arbennig ar gyfer cwsmeriaid.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Chris Phillips, Rheolwr y Gwasanaethau Cynghori ar (01443) 425034.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.